Ar drothwy cyfarfod rhwng Hywel Francis AS a Carwyn Jones AC yfory (21/07/09) i drafod y broses o drosglwyddo pwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon a nodi eu rhwystredigaeth yngl?n â'r broses.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu cyhoeddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig ac yn falch fod y Pwyllgor yn gweld yn dda mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai fod â'r cyfrifoldeb i ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:'Mae'n galonogol fod y Pwyllgor Materion Cymreig yn unfrydol eu barn mai'r Cynulliad dylai ddeddfu ar yr iaith Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan ei siom fod cyfarfod tyngedfennol i drafod y Gorchymyn Iaith wedi'i ohirio. Roedd Peter Hain wedi datgan y byddai Uwch Bwyllgor Cymru yn cyfarfod ar 8 Gorffennaf i drafod cais y Cynulliad i ddatganoli pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru, er nad yw cyfarfod o'r fath yn angenrheidiol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llongyfarch aelodau Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol am greu adroddiad sy'n datgan yn glir y dylid datganoli pwerau deddfwriaethol mor eang â phosibl dros yr iaith Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Erbyn Mehefin 5e
Daeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw.