Bydd ymgyrchydd iaith yn mynd o flaen y llys heddiw (Dydd Mercher, 9fed Chwefror) ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iaith gyflawn.Ar yr un dydd â'r achos, fe fydd y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn lansio ymgyrch newydd o'r enw "Hawliau i'r Gymraeg".
Fe wnaeth dwsin o aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am nwyddau yn siop Marks and Spencers yn Nhostre, Llanelli, heddiw gan adael eu nwyddau yn eu troliau siopa a cherdded allan.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisiau diolch i'r Aelodau Cynulliad a bleidleisiodd dros hawliau cyffredinol i'r iaith Gymraeg. Pleidleisiodd 16 o blaid, 32 yn erbyn a dim yn ymatal.Roedd hawliau wedi ei addo yng nghytundeb Cymru'n Un.
Gwelliannau i'r Mesur Iaith ar y bwrdd - pleidlais hanesyddol gan Aelodau Cynulliad CymruMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu gohirio ei ymgyrch yn erbyn y Llywodraeth, a welodd 6 person yn cael eu harestio wythnos ddiwethaf, ar ôl i Aelod Cynulliad gyflwyno gwelliant i'r Mesur Iaith Gymraeg a fyddai'n sefydlu hawliau i'r Gymraeg.Dywed y mudiad ei fod
Dadorchuddiwyd poster enfawr gan ymgyrchwyr iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw yn dangos y Gweinidog Treftadaeth gyda'i ddwylo dros ei glustiau yn anwybyddu barn yr holl fudiadau ac unigolion sydd am gryfhau'r Mesur Iaith.
Bu tri o Gymry blaenllaw yn cyfarfod ag Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth heddiw i bwyso arno o'r newydd i barchu statws swyddogol diamod i'r iaith Gymraeg.Daw'r cyfarfod gwta wythnos ar ôl i bedwar ugain a phump o awduron, beirdd, clerigyddion, ysgolheigion, artistiaid a phobl fusnes anfon llythyr agored at y Gweinidog Diwylliant.Dirprwyaeth o'r llythyrwyr hynny oedd yn bresennol, sef yr Athro Richard Wyn Jones, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, a'r ddarlledwraig adnabyddus Beti George.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dechrau ymgyrch yn erbyn banciau heddiw (Dydd Sadwrn Tachwedd 13) mewn ymdrech i sicrhau hawliau i'r Gymraeg yn y Mesur Iaith.Er mwyn tynnu sylw'r Llywodraeth at y ffaith na fydd mesur iaith arfaethedig y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wasanaethau Cymraeg yn y sector breifat mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol rannau o'r sector breifat, g
Mae dros wythdeg o Gymry blaenllaw, megis yr Archesgob Barry Morgan a'r awdur Rachel Trezise, wedi galw am newidiadau i'r Mesur Iaith Gymraeg mewn llythyr agored heddiw (Dydd Iau, 4ydd Tachwedd).Yn y llythyr, mae trawstoriad o Gymry amlwg fel yr Archdderwydd T.