Bydd ymgyrchwyr Cymraeg yn protestio ar Faes yr Eisteddfod heddiw (3pm, Dydd Mercher, 4ydd Awst) oherwydd gwendidau yn y ddeddfwriaeth arfaethedig ar y Gymraeg, gan alw am wrthryfel gan wleidyddion yn dilyn methiant y Llywodraeth i gadw at ei haddewidion.Ychydig wythnosau'n ôl, galwodd pwyllgor trawsbleidiol am newidiadau mawr i gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad oherwydd diffyg egwyddorion yn y drafft.
Mae grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad wedi cytuno bod angen cryfhau'r Mesur Iaith Gymraeg yn sylweddol mewn adroddiad heddiw.Yn ei adroddiad, mae'r pwyllgor deddfu yn datgan bod angen cynnwys datganiad 'clir a diamwys' yn sefydlu statws swyddogol i'r Gymraeg; Comisiynydd mwy annibynnol oddi wrth y Llywodraeth; a rhagor o rym i unigolion yn y Mesur.Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymr
Bydd llyfr newydd sydd yn esbonio hanes degawd o ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau mileniwm newydd yn cael ei lansio yng Nghaernarfon heddiw.Sbardun cyhoeddi'r llyfr hwn oedd rhannu'r rhai o'r cannoedd o lythyrau a chardiau a dderbyniodd Osian Jones tra yn HMP Altcourse yn ystod Rhagfyr 2009 am ei ran yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.Bydd y llyfr ar werth am £4.95 o siopau llyfr Cy