Fe gafodd ymgyrchydd iaith ei groesawu adref gan chwedeg o bobl heddiw (Dydd Iau, Awst 30) ar ôl treulio dros bythefnos o dan glo am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu'n uniaith Saesneg.
Ers cael ei garcharu, mae Jamie Bevan, 36 mlwydd oed o Ferthyr Tudful ac sydd yn dad i bedwar o blant, wedi cwyno'n swyddogol wrth Gomisiynydd y Gymraeg am y diffyg ffurflenni Cymraeg sydd ar gael i garcharorion. Mae fe hefyd wedi codi pryderon am agwedd sarhaus swyddogion carchar Caerdydd at y Gymraeg, gan gyfeirio at "rhegfeydd a bygythiadau agored".
Cafwyd cefnogaeth i'w safiad gan nifer o bobl, gan gynnwys yr AS Llafur Susan Elan Jones, Jill Evans ASE a Bethan Jenkins AC o Blaid Cymru. Mae Comisiynydd y Gymraeg bellach wedi gytuno i gwrdd â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg i drafod sefyllfa'r Gymraeg yn y system gyfiawnder.
Wrth ei groesawu yn ôl, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae hwn yn brawf cynnar o Gomisiynydd y Gymraeg. Gallai hi orfodi'r carchardai i gydymffurfio â'u goblygiadau cyfreithiol, a fydd hi'n gwneud hynny? Ydy hi'n ddigon cryf i sefyll lan yn erbyn y sefydliadau hyn sydd yn torri eu cynlluniau iaith? Derbyniodd hi gwyn am driniaeth Jamie dros bythefnos yn ôl, pryd fydd pethau yn newid? Ymhellach, mae swyddogion wedi rhegi ar a bygwth Jamie am iddo geisio defnyddio Cymraeg. Mae'n gwbl annerbyniol. Maen nhw wedi cael degawdau i gydymffurfio â'r gyfraith, mae'n amser i bethau newid."
Y bore yma, oedodd swyddogion y carchar rhag rhyddhau Jamie Bevan oherwydd nad oedd ffurflen rhyddhau ar gael yn Gymraeg. Yn y diwedd, cytunon nhw i'w adael allan heb orfod llenwi'r ffurflen.
Yn ei lythyr o garchar Caerdydd at Gomisiynydd y Gymraeg Meri Huws, ysgrifennodd Mr Bevan: "Dydy'r ffurflenni sydd wir yn bwysig i garcharor megis ffurflenni rhifau ffôn, rhestr ymweliadau, bwydlen a'r siop wythnosol dal ddim ar gael yn Gymraeg. Mae yna ryw deimlad fod swyddogion y carchar mewn 'crisis management' wrth ddelio gyda'r cwsmer lletchwith wrth ddarparu sgrapiau o bapur plaen i mi wneud fy ngheisiadau. Fe fyddaf i'n gadael y lle yma ymhen wythnos arall a gall popeth ddychwelyd i'r normal.
"Dyma enghraifft o sut mae pethau wedi gweithio ers Deddf Iaith '93 a chynt. Sefydliad yn derbyn cwyn am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg. Sefydliad yn ymddiheuro a chywiro'r sefyllfa gyda rhyw gyfieithiad brys. Mae'r cwsmer yn derbyn yr ymddiheuriad a phethau o fewn y sefydliad yn dychwelyd i'r norm ... tan y gwyn nesaf. Does dim dilyniant i sicrhau bod newid cadarnhaol yn yr hirdymor yn hytrach na delio gydag achosion unigol ar hap a damwain.
30 Awst 2012
|
|