Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol a Rali Flynyddol y mudiad yng Nghanolfan Gymraeg Merthyr Tudful ar ddydd Sadwrn Hydref 24 gan gyhoeddi fod 'Chwyldro Newydd yn y Cymoedd'. Bydd y Cyfarfod Cyffredinol yn dechrau am 10.30 y bore a'r Rali Flynyddol am 2 y prynhawn.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yr oeddem yn falch iawn felly o gael gwahoddiad gan ein haelodau ym Merthyr Tudful i gynnal Cyfarfod Cyffredinol 2009 yn y dref honno.
Ar raglen Good Morning Wales bore yma dywedodd Peter Hain ei fod yn falch fod Llywodraeth y Cynulliad, Swyddfa Cymru a San Steffan wedi canfod 'common sense solution' ynghylch y Gorchymyn Iaith.
Mi fydd Osian Jones - trefnydd Cymdeithas yr iaith yn y gogledd - yn mynd gerbron Llys Ynadon Pwllheli ar Dachwedd y 6ed am 9.30 y bore, lle bydd yn cychwyn ar ei gyfnod o 28 diwrnod yn y carchar am ei weithred yn erbyn cwmnïau Boots, Superdrug, Matalan a PC World.Gweithredodd Osian drwy beintio sloganau a gosod sticeri ar siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World, a oedd
Mi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.
Cyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn
Daeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru.