Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo y cwmni gyda'i wreiddiau yng Nghymru o lusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Ia. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis:"Yr oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni bore heddiw wrth i gwmni Iceland agor siop newydd yn y dre.
Yn dilyn bron i flwyddyn o ymgyrchu yn erbyn cwmnïau yn y sector breifat bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn y Brifddinas ar stryd fawr mwyaf Cymru heddiw i dynnu sylw'r busnesau mawr a'r Llywodraeth am yr angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.Meddai Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith:"Rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros y misoedd diwethaf gan lobio a gweithredu'n uniongyrchol yn erb
Gall Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgelu bydd Sion Corn yn ymweld â siop ffoniau symudol 'Get Connected', Ffordd y Môr, Aberystwyth ddydd Sadwrn yma (13/12) am 1pm ac yn tynnu o'i sach rhestr o wasanaethau yr hoffai weld cwmni Orange yn darparu yn y Gymraeg. Fe fydd Sion Corn yn trosglwyddo'r rhestr i weithwyr y siop gan ofyn iddynt ei ddanfon ymlaen at gwmni Orange, yn ogystal a gofyn i'r siop i gefnogi galwad y Gymdeithas trwy fynnu gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.
Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.
Y lleoliad am yr wythnos fydd Clwb Ifor Bach, Stryd Womanby, Caerdydd, gyda tri llawr o adloniant yn cael eu cynnal o nos Sadwrn drwodd i nos Sadwrn a dau gig gwahanol yn cael eu cynnal bob nos. Mae'r llawr gwaelod yn dal 210 yn unig a'r llawr canol/uchaf 260 - felly cysylltwch â'r brif swyddfa i archebu tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan - 01970 624501 neu post[AT]cymdeithas[DOT]org .