Yn dilyn y datganiad y bydd Caerfyrddin a Bangor ymhlith y 66 lleoliad drwy wledydd Prydain lle bydd cynigion yn cael eu gwahodd i ddarparu teledu lleol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu bod rhaid bod cymal i sicrhau darpariaeth teilwng i'r Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y trwyddedi o'r cychwyn cyntaf.Dywedodd Cadeirydd Sir Gaerfyrddin o'r Gymdeithas, Sioned Elin:"Mae angen osgoi'r problemau a achoswyd mewn radio lleol megis Radio Carmarthenshire pryd roedd yr awdurdodau'n methu mynnu bod darpariaeth ddigonol o ddarlledu Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod ag "obsesiwn" am gau ysgol wledig mewn pentre lle mae 91% o'r trigolion yn siaradwyr Cymraeg.
Yn wyneb penderfyniad Llywodraeth Cymru i orfodi awdurdodau lleol i ail-gyflwyno ceisiadau am ysgolion newydd, mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar nifer o gynghorau i ail-ystyried eu cynlluniau i gau ysgolion pentrefol.Mae Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi cyhoeddi newidiadau i'w raglen Ysgolion y 21ain ganrif a olygir bod rhaid i gynghorau ariannu 50% o'r gost gyfalaf eu hunain
Mae ymgyrchwyr ac undebau wedi cynnal lobi tu allan i gyfarfod rhwng Cadeirydd newydd y BBC Chris Patten ac Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd dros ddyfodol darlledu yng Nghymru heddiw (17:30, Mehefin 22).Yn yr hydref y llynedd, fe gytunodd y BBC i gymryd drosodd ariannu S4C fel rhan o ddel sydd yn golygu cwtogi ar gyllideb y sianel o dros bedwar deg y cant mewn termau real.
Mae ymgyrchwyr wedi galw ar i benaethiaid y BBC dynnu allan o'u dêl toriadau gyda'r Llywodraeth, wrth ddechrau gwersyll tu allan i stiwdio yn y Gogledd dros ddarlledu heddiw (Dydd Llun, 20 Mehefin).Fe ddechreuodd tua dwsin o ymgyrchwyr gwersylla ar safle Bryn Meirion ger Prifysgol Bangor am tua wyth o'r gloch y bore.
Bydd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, yn mynd heb ddwr na bwyd am 50 awr cyn cyfarfod tyngedfennol o Gyngor Gwynedd ar ddyfodol Ysgol y Parc fel arwydd fod perygl i fywyd y gymuned wledig Gymraeg a fydd tan drafodaeth.Brynhawn Iau nesaf (Mai 12ed) bydd Cyngor llawn Gwynedd yn trafod yn derfynol argymhelliad i gau Ysgol Y Parc, ger Y Bala er bod trigolion y pentref 91%
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno gwobr i gwmni Tarian Cyf yng Nghaernarfon am gynnig gwasanaeth Cymraeg arbennig i'r cyhoedd.