Mae Radio 1 wedi datgan mai 12 Hydref yw dyddiad Diwrnod John Peel eleni. Ledled y byd, bydd gigs a digwyddiadau cerddorol yn cymryd lle, i gofio am y dyn a wnaeth gymaint dros gerddoriaeth amgen. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â nhw gan gynnal noson arbennig yn y Greeks ym Mangor Uchaf.
Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r datblygiad arfaethiedig o ddeuddeg aneddle newydd ar safle'r Wern ym Mhenmorfa, ger Porthmadog, yn brawf pellach o'r modd nad yw lles yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw teilwng mewn perthynas a phenderfyniadau ym maes cynllunio.
Bu dros 20 o ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn protestio tu fewn i siop Blacks ym Metws-y-Coed heddiw, wedi i aelod o staff yno geryddu Dilwyn Llwyd o Gaernarfon, am siarad Cymraeg. Yn dilyn y brotest, fe ddatganodd yr ymgyrchwyr y bydd mwy o brotestiadau, os na fydd rheolwyr y siop gadwyn yn barod i gynnal cyfarfod i drafod ei polisi iaith.
Bydd 28 o fyfyriwr Prifysgol Cymru Aberystwyth a Bangor, yn cynnal ympryd rhwng 9yb heddiw hyd nes i Gwenno Teifi gael ei rhyddhau o'r carchar, er mwyn dangos cefnogaeth iddi a'i safiad dewr dros Ddeddf iaith Newydd, yn dilyn ei charchariad gan Llys Ynadon Caerfyrddin ddoe.