Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor.
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bu aelodau o'r Gymdeithas yn picedu tu allan i Tesco Cyffordd Llandudno heddiw. Dosbarthwyd taflenni yn tanlinellu nad yw tocenistiaeth parhaol Tesco tuag at y Gymraeg yn ddigon da.
Heddiw, ar ddiwrnod canlyniadau semester un y myfyrwyr mi fydd y myfyrwyr eu hunain yn dyfarnu graddau i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor.
Cychwynodd Taith Gerdded Cymdeithas yr Iaith dros Ysgolion Pentrefol Gwynedd heddiw gan gerdded o Ysgol y Parc (un o’r rhai cyntaf sy tan fygythiad) at y Capel Coffa ar lan Llyn Celyn. Bu cyfarfod byr am yn y Capel i gofio Tryweryn ac i ymdynghedu i frwydro i beidio a cholli chwaneg o gymunedau Cymraeg o ganlyniad i golli ysgolion.
Bydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn gwthio Blwch Postio mawr 75 milltir ar draws sir Gwynedd fel rhan o’r frwydr dros ysgolion pentrefol Cymraeg y sir. Yn ystod y Daith Gerdded hon (wythnos hanner tymor) byddant yn ymweld ag ysgolion y mae Cyngor Gwynedd yn bygwth eu cau yn eu Cynllun Ad-drefnu gan annog trigolion lleol i bostio cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’r Cynllun.
Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.