Daeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.
Cafodd Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfanswm dirwyon a chostau o £1,025 gan Lys Ynadon Caernarfon heddiw am beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar waliau siop Morison ym Mangor yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Roedd wedi pledio'n ddieuog.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith newydd a gynhelir am 6pm yn y 'Ganolfan' ym Mhorthmadog heno. Dyma’r corff newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac sy’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch o gyhoeddi y bydd y DJ enwog o Fanceinion Andy Votel yn perfformio yn eu gig yn Amser, Bangor ar nos Fercher yr Eisteddfod eleni.
Mae nifer cyfyngedig o docynau wythnos ar gyfer Gigs Steddfod Genedlaethol Eryri Cymdeithas yr Iaith rwan ar werth o wefan y Gymdeithas -