Am 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon llythyr agored at bob aelod o Gyngor Gwynedd yn galw arnynt i beidio a chefnogi'r cynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion y sir gan fod arweinwyr y Cyngor wedi gwneud camgymeriad sylfaenol o ran ymgynghori cyhoeddus.
Cafodd Steffan Cravos, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei arestio am godi posteri yn galw am ddeddf Iaith newydd ar ffenestri siop Tesco mewn protest o dros 150 o bobl ym Mhorthmadog am 2pm heddiw. Cafodd y brotest ei gynnal er mwyn pwylsiesio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gadarn ac i bwysleisio fod angen i gwmniau preifat mawr fel Tesco wneud defnydd llawn o'r Gymraeg, nid 'tipyn bach' yn unig.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gonsesiynau diweddaraf Thomas Cook trwy gyhoeddi ei bod am fwrw mlaen gyda'r brotest am 1pm Ddydd Gwener tu allan i siop y cwmni teithio ym Mangor.
Ar ddydd Llun, 11fed o Fehefin bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod a rheolwyr Prydeinig archfarchnad Morrisons ym mhencadlys y cwmni ym Manceinion. Byddant yn trafod galwadau Cymdeithas yr Iaith ar i Morrisons ddatblygu strategaeth genedlaethol er mwyn darpau gwasanaethau a nwyddau trwy gyfrwng y Gymraeg.