Ar nos Wener, Mawrth 13, bydd noson arbennig iawn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i godi arian i bobl Gasa. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu drwy ddod i gefnogi noson lle bydd Steve Eaves a Gwilym Morus yn chwarae. Steve Eaves ei hun sydd wedi cynnig cynnal noson, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn gyfle i nifer fawr iawn o gyfrannu i achos sydd wedi eu cyffwrdd yn ddwfn.
Heddiw (Chwefror 5ed 2009) daeth Gweithgor Ysgolion Gwynedd yn ôl ac argymhellion o flaen y Pwyllgor Craffu Plant a Phobol Ifanc, yn datgan y bydd y cyngor yn mynd rhagddi gyda chynllun o ymgynghori llawn.
Am 11 yb ar ddydd Sadwrn yr 24ain o Ionawr, meddiannwyd fflat yn natblygiad Doc Fictoria yng Nghaernarfon gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'r weithred symbolaidd hon yn rhan o'r ymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg Cymru, a thros sefydlu'r Hawl i Rentu fel rhan o?r ateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r cymunedau hynny.
Yng nghanol prysurdeb y Nadolig, efallai na sylwodd nifer o bobl ar y cyhoeddiad bod Ofcom Cymru wedi dyfarnu trwydded radio masnachol newydd ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru. Real Radio yw deiliaid y drwydded newydd, a bydd eu gorsaf yn dechrau darlledu o fewn y ddwy flynedd nesaf - a hynny drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Derbyniodd dau aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, Steffan Cravos ac Osian Jones, ddirwyon a chostau o £750 yr un ar ôl ymddangos ger bron Llys Ynadon Pwllheli heddiw. Cafwyd y ddau yn euog o achosi difrod troseddol i siopau Boots a Superdrug yn Llangefni, Caernarfon a Bangor.
Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".