Mi fuodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedu cynhadledd Plaid Cymru yn "Venue Cymru" Llandudno heddiw, dydd Sadwrn Medi 12 fed.Buodd yr aelodau yn picedu oherwydd fod y Gorchymyn Iaith fel ac y mae yn rhwystro'r ffordd tuag at hawliau ieithyddol cyflawn, ac i ddangos eu rhwystredigaeth na fydd cwmniau megis Tesco, Boots a Superdrug nac unrhyw siop stryd fawr arall yn cael eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith.
Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.
Mae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr.
Rhoddwyd sticeri 'LCO yn rhwystro hawliau iaith yn y lle hwn' ar ffenestri siopau cadwyn ar strydoedd drwy Gymru yn ystod y nos neithiwr (nos Iau, 23ain o Ebrill) er mwyn tynnu sylw nad yw'r cwmnioedd a dargedwyd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Iaith Gymraeg (LCO).Bydd Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth, yn ymddangos eto o flaen Pwyllgor Craffu'r Gorchymyn Iaith yr wythnos nesa,
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo y cwmni gyda'i wreiddiau yng Nghymru o lusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Ia. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis:"Yr oedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni bore heddiw wrth i gwmni Iceland agor siop newydd yn y dre.