Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu. Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin.
Bu criw o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn cario neges o Garreg Goffa Gwynfor ger Bethlehem i stiwdio'r BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Llun, Ebrill 18), i dynnu sylw at yr argyfwng difrifol sy'n wynebu S4C, ac i rybuddio'r BBC i beidio a chydweithio â'r llywodraeth i danseilio'r sianel y brwydrodd Gwynfor drosti.Cafwyd Taith Gerdded o'r Garn Goch
Fe aeth aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith a'r ymgyrch i achub S4C i strydoedd Caerfyrddin heddiw mewn modd theatrig.
Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith a garcharwyd ddeugain mlynedd yn ôl am 12 mis am ddringo mast teledu a thorri i mewn i stiwdios Granada ym Manceinion wedi dringo mast teledu Carmel, ger Cross Hands, am 7.30am heddiw a chodi baner y Tafod.
Mae nifer o bobl ifanc Sir Gaerfyrddin wedi meddiannu adeilad y BBC yng Nghaerfyrddin heddiw (Dydd Mercher, 23/2/11) fel rhan o'r ymgyrch i atal cytundeb rhwng y BBC a S4C, gan ddweud y byddai'n dinsitrio annibyniaeth y sianel.Dros y penwythnos, fe ddaeth tua 300 o bobl leol i brotest tu fas i swyddfeydd y BBC yng Nghaerfyrddin i ddangos eu gwrthwynebiad i'r c
Fe wnaeth dwsin o aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am nwyddau yn siop Marks and Spencers yn Nhostre, Llanelli, heddiw gan adael eu nwyddau yn eu troliau siopa a cherdded allan.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'n llym yr Aelod Seneddol Toriaidd Simon Hart, am ddweud celwydd ynghylch maint y toriadau i gyllideb S4C mewn cymhariaeth a llefydd eraill o fewn y DCMS. Mewn ebost at aelod o'r Gymdeithas dywed Simon Hart:"...