Y bore ma daeth 75 o gynrychiolwyr o 12 o ysgolion ynghyd a Merched y Wawr ac Undeb Ffermwyr Cymru i Neuadd y Sir, Caerfyrddin i roi negeseuon o gefnogaeth i frwydr Ysgol Mynyddcerrig dros ei dyfodol. Daeth pob cynrychiolydd a charreg o'u hardal nhw i adeiladu mynydd bach o gerrig o flaen Neuadd y Sir fel cyfraniad pellach at y broses ymgynghori ar ddyfodol yr ysgol.
Ddeuddeg awr wedi rhwystro swyddogion addysg y Cyngor Sir rhag ymadael a maes parcio, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gweithredu yn erbyn un arall o benderfyniadau dadleuol Cyngor Sir Caerfyrddin. Arestiwyd 2 aelod o Gymdeithas yr Iaith y bore yma am dynnu arwydd uniaith Saesneg enfawr sy'n dynodi safle datblygiad newydd Debenhams yn nhre Caerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu fod Gweinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, yn cyfarfod â dirprwyaeth gan y Gymdeithas, Rhieni a Llywodraethwyr sy'n pryderi am eu hysgolion pentrefol yn Sir Gaerfyrddin i drafod methiant canllawiau y Cynulliad Cenedlaethol i amddiffyn yr ysgolion.