Tra bydd cyfarwyddwraig BT yng Nghymru yn rhoi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Deddfwriaeth y Cynulliad, am 9am ar ddydd Mawrth, Mawrth 31ain, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthdystio tu allan i adeilad y Senedd, i ddangos nad yw'r ddeddfwriaeth iaith bresennol yn ddigon da a'r angen am Orchymyn Iaith eang.
Yn dilyn cyhoeddiad y Gorchymyn Iaith yn ddiweddar, mae'n fwriad gan Gymdeithas yr Iaith gynnal cyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddilyn esiampl Yr Alban (gw. eu datganiad heddiw) trwy osod rhagdyb o blaid ysgolion bach. Yn ôl y Gymdeithas, byddai hyn yn gorfodi gwleidyddion a swyddogion 'diog' i gynllunio'n iawn ar gyfer ysgolion bach a byddai'n rhoi hwb newydd i rieni ac i gymunedau sy'n digalonni am ddyfodol eu hysgolion.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr agored at lywodraethwyr Ysgol Ffederal Carreg Hirfaen yn galw arnynt i wrthod pwysau gan y Cyngor Sir i gau dwy safle bentrefol yn Ffarmers a Llanycrwys. Mae'r Cyngor Sir wedi cynnig talu am bortacabin ychwanegol ar safle Cwman ac am gostau cludo'r plant ar yr amod fod y ddau safle arall yn cael eu cau yn Ionawr. Yn ei llythyr at gadeirydd y llywodraethwyr, mae'r Gymdeithas yn galw ar y Bwrdd i wrthod y blacmel hwn gan y Cyngor Sir.
Mae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.