'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).
Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu.

Mae dau ymgyrchydd iaith wedi eu dedfrydu heddiw yn yr achos llys cyntaf yn ymwneud ag S4C ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Daeth torf o dros gant o bobl draw i Lys Ynadon Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth. Cafodd Jamie Bevan orchymyn i dalu iawndal o £1,020, costau o £120 a gorchymyn 'curfew' am 28 niwrnod.
Bydd bywyd y cymeriad teledu Cyw yn cael ei roi yn y fantol wrth i'r ymgyrch i achub S4C gyrraedd maes Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe heddiw (Dydd Mawrth, Mai 31).Ymysg siaradwyr y brotest bydd Bethan Jenkins AC, llefarydd darlledu Plaid Cymru, a Keith Davies AC ar ran y blaid Lafur.
Bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cwrdd gyda Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yng Nghaerdydd heddiw i drafod dyfodol S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni am annibyniaeth a chyllid S4C ar ôl i Lywodraeth San Steffan benderfynu newid y ffordd y mae'r sianel yn cael ei ariannu heb ymgynghori gyda unrhyw un yng Nghymru.Yn dilyn y cyfarfod dywedodd Bethan