Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r protestiadau ar Fawrth y 1af eleni - diwrnod agoriad swyddogol adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Gymdeithas am hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am ddeddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.
Ar drothwy dathliadau agor adeilad newydd y Cynulliad Cenedlaethol, bu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw unwaith eto am Ddeddf Iaith newydd heddiw trwy ddadorchuddio bilfwrdd dychanol o Rhodri Morgan. Yno yn cefnogi'r ymgyrch oedd Leanne Wood AC ac Owen John Tomos AC ar ran Plaid Cymru
Nos Fawrth, 24ain o Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn ymgynghori ar yr angen am Ddeddfwriaeth Newydd ym maes y Gymraeg. Daw’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o drafodaeth wleidyddol ac ymgynghori â phleidiau gwleidyddol.
Daeth dau gant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Rali Calan y Mudiad gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw. Yn y rali datganodd Steffan Webb, Rheolwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, ei gefnogaeth i Ddeddf Iaith Newydd.
Am 2 o'r gloch heddiw bydd Rali-brotest Deddf Iaith yn cael ei chynnal ar Stryd y Frehnines, Caerdydd (cychwyn ger cerflun Aneurin Bevan). Bwriad y rali yw crisialu holl ymgyrchoedd gwahanol Cymdeithas yr Iaith a fu’n tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Cafwyd 4 aelod o Gymdeithas yr iaith yn ddi-euog gan Llys Ynadon Caerdydd y bore 'ma o'r cyhuddiad o ddifrod troseddol, er iddynt gyfaddef eu bod wedi peintio'r slogan 'Deddf Iaith newydd - Dyma'r Cyfle!' ar waliau Llywodraeth y Cynulliad.
Ar ddydd Mercher, y 23ain o Dachwedd bydd cyfres achosion llys aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cael ei lansio. Ar fore Mercher bydd pedair o ferched yn wynebu achos llys yng Nghaerdydd. Y pedair yw Lowri Larsen o Gaernarfon, Menna Machreth o Landdarog, Lois Barrar o Nelson a Gwenno Teifi o Sir Gaerfyrddin.