Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gresynu at y newyddion fod Cyngor Sir Abertawe am godi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg yn yr ardal gan ddefnyddio iechyd a diogelwch fel esgus dros wneud hynny. Heddiw anfonodd y Gymdeithas y llythyr isod at Brif Weithredwr Cyngor Abertawe yn mynegi ei phryder.
Rhwng 10am a 1pm heddiw, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lawnsio cyfnod newydd yn ei hymgyrch dros ddeddf iaith newydd i’r Gymraeg.
Ar ddydd Mercher yr ail o Awst am 10 y.b, bydd Angharad Elen Blythe o flaen ei gwell yn Llys Ynadon Caerdydd. Hi fydd yr aelod olaf o’r mudiad i wynebu achos llys yn dilyn y cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad yn 2005 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.
Fel arfer, bydd amrywiaeth eang o artistiaid cerddorol yn diddanu eisteddfodwyr Abertawe eleni, wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi eu lineups cyffrous ar gyfer yr wythnos.Bydd y Gymdeithas, a enillodd wobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn, Gwobrau RAP C2' am ei gigs yn Eisteddfod 2005, yn defnyddio dwy ganolfan yn ystod yr wythnos, eleni.
Holwyd y Gweinidog Iaith a Diwylliant, Alun Pugh, yn galed yn Abertawe neithiwr yn ystod cyfarfod o'r Fforwm Iaith. Yn ystod cyfnod o ymgynghori'r llywodraeth ynglŷn â diddymu Bwrdd yr iaith Gymraeg, galwodd yr aelodau am ddeddf iaith newydd a thynnwyd sylw'r gweinidog at yr ŵyl fawr dros Ddeddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar y 10fed o Fehefin.
Wrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu strategaeth ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn y brifddinas heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi sylwi ar un elfen o'r cyhoeddiad sy'n sicr o achosi embaras i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Cafodd cyfarfod lobio pwysig ei gynnal yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw dan y teitl 'Y Gymraeg – Hawliau Cyfartal?'. Trefnwyd y cyfarfod gyda chymorth Leanne Wood AC.