Rhoddwyd mechnïaeth i ddau aelod o Gymdeithas yr Iaith heddiw gan lys ynadon Caerdydd yn dilyn eu hymddangosiad ar gyhuddiad o Fyrgleriaeth - sef torri i mewn i swyddfa'r AS Torïaidd, sy'n cael ei rannu gan yr AC lleol, gyda'r bwriad o beintio slogan ar y wal yn galw am sicrwydd i ddyfodol S4C.
Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cynnal gêm bêl-droed wedi'u gwisgo fel David Cameron a phennaeth y BBC Mark Thompson er mwyn gwrthwynebu'r toriadau i S4C, cyn gorymdeithio i Gynadleddau y ddwy blaid wleidyddol yng Nghaerdydd heddiw (10:15am, Dydd Sadwrn y 5ed o Fawrth).Fe fydd y mudiad iaith yn gorymdeithio gyda undebau a grwpiau protest eraill yn erbyn toriadau'r L
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwneud cwyn swyddogol i wasanaeth y llysoedd ar ol i swyddog awgrymu na ddylai pobl ddi-Gymraeg gefnogi'r iaith.Treuliodd Jamie Bevan dros hanner awr yn ceisio derbyn gwasanaeth Cymraeg yn ymwneud â'i achos ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iait
Bydd ymgyrchydd iaith yn mynd o flaen y llys heddiw (Dydd Mercher, 9fed Chwefror) ar ôl iddo chwistrellu'r gair "Hawliau" ar adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o ymgyrch am ddeddfwriaeth iaith gyflawn.Ar yr un dydd â'r achos, fe fydd y mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn lansio ymgyrch newydd o'r enw "Hawliau i'r Gymraeg".
Dadorchuddiwyd poster enfawr gan ymgyrchwyr iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw yn dangos y Gweinidog Treftadaeth gyda'i ddwylo dros ei glustiau yn anwybyddu barn yr holl fudiadau ac unigolion sydd am gryfhau'r Mesur Iaith.
Fe wrthododd pennaeth y BBC, Mark Thompson, roi sicrwydd o gyllid gan y BBC i S4C wedi 2015 pan gafodd ei holi gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.Fe holwyd Mark Thompson, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, gan aelodau o'r Gymdeithas wrth gyrraedd cinio a drefnwyd gan y BBC ar gyfer gwleidyddion a phwysigion eraill ym mwyty drudfawr y Woods Brasserie,
Bu tri o Gymry blaenllaw yn cyfarfod ag Alun Ffred Jones, y Gweinidog Treftadaeth heddiw i bwyso arno o'r newydd i barchu statws swyddogol diamod i'r iaith Gymraeg.Daw'r cyfarfod gwta wythnos ar ôl i bedwar ugain a phump o awduron, beirdd, clerigyddion, ysgolheigion, artistiaid a phobl fusnes anfon llythyr agored at y Gweinidog Diwylliant.Dirprwyaeth o'r llythyrwyr hynny oedd yn bresennol, sef yr Athro Richard Wyn Jones, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, a'r ddarlledwraig adnabyddus Beti George.