Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn sticeri siopau Morrisons a Tesco drwy Gymru neithiwr. Targedwyd siopau yn perthyn i'r ddau gwmni ym Mangor, Caernarfon, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd (yn Nhrefynach a dwy ar Heol y Bont Faen). Peintiwyd slogan ar wal siop Morrison yng Nghaernarfon.
Heddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyfarfod aelodau marchnata cwmni Morrisons, i ddilyn y cyfarfod a fu rhwng y cwmni ar Gymdeithas yn ôl yn mis Mehefin 2007. Bwriad y cyfarfod oedd asesu'r datblygiadau diweddar yn eu polisi au defnydd o'r iaith Gymraeg.
Daeth dros 300 o bobl i Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd y tu allan i adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd Dydd Sadwrn 23ain Chwefror. Bwriad y Rali oedd cadw'r pwysau ar y llywodraeth i sicrhau Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr ar ôl gweld y llywodraeth yn torri dau o addewidion Cymru'n Un yn ystod y misoedd diwethaf.
Fore Llun y 4ydd o Chwefror, cafwyd cyfarfod allweddol rhwng cynrychiolaeth o Fudiadau Dathlu’r Gymraeg â’r Gweinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas.Croesawyd bodolaeth Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, sef grŵp ymbarél o 13 mudiad Cymraeg, gan y Gweinidog.
Wrth ymateb i ganlyniadau arolwg diweddar gan raglen BBC Dragon's Eye a oedd yn honni bod nifer isel iawn o Gymry Cymraeg yn defnyddio gwasanaethau Cymraeg y sectorau preifat a chyhoeddus, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod hyn yn brawf pendant o'r angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Bore yma bu aelodau o Rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith yn picedi Rhodri Morgan a oedd yn ymweld â Chaernarfon. Roedd y Gymdeithas yno i danlinellu'r angen am ddeddf iaith gynhwysfawr.