Mae Cyngor Abertawe dal i lusgo'i traed ynghylch ei polisi iaith yn y ddinas meddai aelodau Abertawe o Gymdeithas yr Iaith. Er gwaetha'r ffaith fod y Cyngor wedi datgan ar sawl achlysur ei bod yn hybu dwyieithrwydd yn y ddinas, yn ymarferol maent yn hollol ddiffygiol yn gwireddu hyn.
Am 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth.
Am 11 o'r gloch bore heddiw fe wnaeth dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod a'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas AC yng Nghaerdydd i drafod cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth newydd ym maes y Gymraeg.
Am 2.yp, heddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest tu allan i gangen yr Wyddgrug o archfarchnad Tesco yn galw ar y cwmni i fabwysiadu nifer o fesurau penodol a fydd yn sicrhau bod eu canghennau ledled Cymru yn cynnig mwy na'u defnydd tocenisitig presennol 'r Gymraeg.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw am 12.30 i drafod Deddf Iaith a dyfodol Ysgolion Pentrefol. Cafwyd cadarnhad y bydd y cyfarfodydd yn mynd rhagddynt er na bydd gweinidogion yn bresennol.
Mae Cymdeithas yr iaith Gymraeg wedi ymosod ar sinigiaeth Chris Bryant ac aelodau seneddol Llafur eraill o Gymru wedi iddynt alw ar Arriva i newid trefn ieithyddol y cyhoeddiadau mewn gorsafoedd trên yng Nghymru.
Cafodd Steffan Cravos, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ei arestio am godi posteri yn galw am ddeddf Iaith newydd ar ffenestri siop Tesco mewn protest o dros 150 o bobl ym Mhorthmadog am 2pm heddiw. Cafodd y brotest ei gynnal er mwyn pwylsiesio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gadarn ac i bwysleisio fod angen i gwmniau preifat mawr fel Tesco wneud defnydd llawn o'r Gymraeg, nid 'tipyn bach' yn unig.