Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9.
Fe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Am 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo m
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith: