Mae pump myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr heddiw (Dydd Iau, 3ydd Rhagfyr) i ddangos cyd-gefnogaeth i ymgyrchydd a garcharwyd ar ôl iddo dargedu siopau mawrion yng ngogledd Cymru.Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i gyd-fynd â charchariad aelod a ymgyrchodd yn erbyn polisi iaith rhai o gwmnïau amlwg y stryd fawr.

Fe fydd siopwyr Caerfyrddin yn derbyn taflenni yn datgelu gwir agwedd cwmni Superdrug at yr iaith Gymraeg heddiw 26/11.
Mae Ynadon Pwllheli wedi gohirio'r gwrandawiad am bythefnos tan 25 Tachwedd i Lys Ynadon Caernarfon.Mewn protest arhosodd Osian ac aelodau'r Gymdeithas tu fewn i adeilad y Llys am awr gan atal eu gweithgareddau, ac ymunodd 50 arall tu allan yn gweiddi 'Hawliau Iaith':Meddai Menna Machreth Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'n greulon iawn bod yr Ynadon wedi gohirio'r amser am bythef