Heddiw (Hydref 2 2013) wedi cyfarfod o bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Fôn, mae Cymdeithas yr Iaith yn llongyfarch aelodau'r pwyllgor am bleidleisio yn erbyn cynllun gan gwmni Land & Lakes i adeiladu parc gwyliau a datblygiad tai yn ardal Penrhos.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i herio yn yr uchel lys ymgais Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol i gael gwared ar eu gwasanaethau Cymraeg.
Mae Cyngor Casnewydd wedi ei gyhuddo o 'gamarwain y cyhoedd' am eu bwriad i ‘weithio’ ar greu gwefan Gymraeg, wedi i ymgyrchwyr weld adroddiad mewnol lle dywedir nad
oes gwaith yn cael ei wneud arni ar hyn o bryd.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’n frwd yr adolygiad o Gymraeg ail iaith a gyhoeddwyd heddiw, ac yn galw ar i’r Prif Weinidog fynd ati i weithredu’r holl argymhellion ar fyrder.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhyddhau datganiad o gefnogaeth ar gyfer y rali dros ysgol Gymraeg yn Grangetown, Caerdydd.
Dywedodd Ffred Ffransis, Llefarydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai.
Mae’r syniad, y bydd y Llywodraeth yn ymgynghori arno fe, yn un o’r argymhellion polisi ym Maniffesto Byw y mudiad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder am ddiffyg uchelgais rheolwyr BBC Cymru dros eu gwasanaethau Cymraeg heddiw, gan ddweud bod angen sefydlu darparwr Cymraeg annibynnol newydd.
Ni ddylai ad-drefnu llywodraeth leol beryglu polisi iaith Gwynedd, dyna yw prif neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw wrth iddyn nhw ymateb i gomisiwn a sefydlwyd i ystyried dyfodol cynghorau sir.