Archif Newyddion

05/11/2013 - 10:15
Dydd Mercher (Tachwedd 6ed 2013) mi fydd aelodau Cymdeithas yr Iaith, ar y cyd ac ymgyrch “Achub Penrhos” yn cynnal rali er mwyn cefnogi penderfyniad pwyllgor cynllunio'r Cyngor i beidio cymeradwyo cais cynllunio gan gwmni Land & Lakes i adeiladu pentref gwyliau a stad anferthol o dai ar yr ynys. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ym mis Hydref, mi benderfynodd y cynghorwyr bleidleisio yn erbyn y cais, ond gan fod hynny yn mynd yn groes i XXX
04/11/2013 - 16:45
Mae Cell Cymdeithas yr Iaith Caerdydd wedi croesawu addewidion a wnaed mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yng nghyfarfod llawn o’r cyngor yr wythnos diwethaf. Yn ystod dadl arbennig ar yr iaith Gymraeg, cafwyd consensws ymysg cynghorwyr ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd yr iaith a chyhoeddodd y Cyng. Heather Joyce, arweinydd y cyngor, fod bwriad i sefydlu grŵp trawsbleidiol er mwyn edrych ar ffyrdd gall y Cyngor hybu’r Gymraeg yn y ddinas.
31/10/2013 - 10:19
Mae ymgyrchwyr wedi galw am ailystyriaeth lawn o gyllideb Cymru, wedi i Carwyn Jones honni bod y buddsoddiad yn y Gymraeg wedi ei ‘ddiogelu’, er bod ei gyllideb ddrafft yn cynnwys toriad o dros £1.5 miliwn i wariant ar yr iaith.
28/10/2013 - 14:32
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl yr Eisteddfod Genedlaethol.
25/10/2013 - 11:45
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am berson trefnus, egnïol a brwdfrydig i fod yn Cydlynydd Cynghrair Cymunedau Cymraeg
22/10/2013 - 10:40
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog am yr amserlen ar gyfer datblygu safonau iaith.
15/10/2013 - 12:00
Bydd y rhaglen sgwrsio ar-lein Skype ar gael yn Gymraeg o heddiw ymlaen, diolch i waith cyfieithu gwirfoddol gan garedigion yr iaith. Daw’r newyddion ar ddiwrnod Shwmae Su’mae, diwrnod sy’n annog unigolion i ddefnyddio a dathlu’r Gymraeg sydd gyda nhw bob dydd.
09/10/2013 - 18:38
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod ‘gwendidau’ cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio. Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun datblygu lleol].”
09/10/2013 - 10:35
Mae’r toriad o dros £1.5 miliwn i fuddsoddiad yn y Gymraeg a gyhoeddwyd yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw wedi ei gondemio gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
06/10/2013 - 18:34
Daeth ymgyrchwyr iaith o bob rhan o Gymru ynghyd ym Mhowys ddydd Sadwrn lle trafodon nhw ffyrdd i ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad.