Mae Meri Huws wedi cytuno bod angen adolygu system gwynion Comisiynydd y Gymraeg, mewn cyfarfod gyda swyddogion Cymdeithas yr Iaith ar faes y Sioe Fawr heddiw (2pm, Dydd Mercher, Gorff. 24).
Gofynnwyd am gyfarfod gyda’r Comisiynydd yn dilyn rhwystredigaeth sawl un o aelodau’r Gymdeithas gyda’r system bresennol.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio penderfyniad cabinet Cyngor
Caerdydd i fwrw ymlaen â chynllun i beidio â sefydlu ysgol Gymraeg i Grangetown,
Caerdydd fel un ‘cywilyddus’.
Daeth tua 50 o ymgyrchwyr lleol i biced tu allan i gyfarfod cabinet y cyngor
Amgylchynwyd siop M&S Caerfyrdin gan linyn yn dal 200 pâr o bants yn dilyn protest gan agos at 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith heddiw. Wrth annerch cannoedd o siopwyr yng nghanol y dref, dywedodd Hazel Charles Evans fod y siop wedi cefnu ar ei haddewid i wneud eu cangen yng Nghaerfyrddin yn esiampl o ddefnydd llawn o’r Gymraeg.
Pobl amlwg ym meysydd yr amgylchedd, busnes a chyfiawnder cymdeithasol yn cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy amgen
Mwy nag 20 o sefydliadau wedi ymrestru (rhestr lawn isod)
Bil i Gymru gyfan lle bydd pawb ar ei ennill – mae’r ymgyrchwyr yn dweud y byddai buddion bil cryf yn cynnwys swyddi gwyrdd, diet iachach a chefnogaeth i gymunedau Cymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod mwyafrif llethol mynychwyr y Gynhadledd Fawr yn cytuno gyda pholisiau yn eu Maniffesto Byw.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryderon mawr am bolisi iaith Cyngor Torfaen wedi iddynt dorri addewid i gyhoeddi safle wê’r Cyngor yn Gymraeg erbyn dechrau’r flwyddyn hon.
Mae dileu addysg Gymraeg ail iaith yn un ffordd hanfodol o sicrhau bod plant yn cael mynediad teg at yr iaith ac o ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, yn ôl papur polisi a gyflwynwyd i adolygiad Llywodraeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.