Archif Newyddion

11/04/2013 - 15:49
LLAI na phedair mil o bunnau allan o gyllideb o bron i £17 miliwn sydd wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned, yn ôl ffigyrau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
05/04/2013 - 13:01
Cynhaliwyd brotest gan tua 50 o aelodau a chefnogwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin yn nerbynfa Neuadd y Sir Caerfyrddin heddiw, i fynnu fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu ar frys i ddiogelu'r iaith a chymunedau Cymraeg yn y sir yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad. Esboniodd Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn lleol:
22/03/2013 - 13:15
Mae seren bop ac un o drigolion amlycaf Tresaith, Dewi 'Pws' Morris, a pherchenog busnes twristiaeth Cymraeg yn Nhresaith, Dr Dilys Davies, wedi ymuno â galwad Cymdeithas yr Iaith ar i Gyngor Sir Cereidigion alluogi pobl i fyw yn Gymraeg.
20/03/2013 - 13:22
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau fod y frwydr dros ddyfodol y Gymraeg yn digwydd yn Ne Cymru.
18/03/2013 - 14:48
Fe wnaeth y cyflwynydd teledu Heledd Cynwal, Meinir Jones (Ffermio, S4C), Andrew Teilo (Pobl y Cwm), Brian Walters (FUW), Mari, Manon a Gwennan Gravell ynghyg ag aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith gynrychioli'r 1,500 a mwy o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin a arwyddodd adduned 'Dwi eisiau byw yn Gymraeg' wrth eu cyflwyno i ddirprwyaeth o Gyngor Sir Gaerfyrddin.
14/03/2013 - 15:46
“Argyfwng? Oes argyfwng?” oedd disgrifiad ymgyrchwyr iaith o araith Leighton Andrews AC mewn cynhadledd yn trafod canlyniadau’r Cyfrifiad heddiw.
13/03/2013 - 22:14
Fe ddaeth ymgyrchwyr iaith ynghyd i goffáu sefydlu Cymdeithas yr Iaith dros hanner can mlynedd yn ôl drwy ddadorchuddiad plac ym Mhontarddulais heddiw (Dydd Sadwrn, 9fed Mawrth).
07/03/2013 - 12:41
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ail-bwysleisio’r angen i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei phenderfyniad i wrthod y safonau iaith arfaethedig, wrth gyhoeddi eu bod wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r Gweinidog dros y Gymraeg.
06/03/2013 - 17:19
Cipiodd trefnwyr gŵyl Hanner Cant wobr arbennig dros y penwythnos yn dilyn llwyddiant y gig fawr i ddathlu hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y llynedd.