Archif Newyddion

28/11/2012 - 16:40
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Lywodraethau Cymru a Phrydain beidio ag oedi wrth weithredu ar y safonau iaith newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd y Gymraeg.
23/11/2012 - 16:51
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’n frwd alwad Plaid Cymru ar i’r Cynulliad ddychwelyd at gyhoeddi’r Cofnod o drafodion sesiynau llawn o fewn 24 awr yn gwbl ddwyieithog. Mae’r datganiad yn golygu bod tair allan o’r pedair plaid yn y Cynulliad wedi datgan eu bod am gyhoeddi cofnodion y Cynulliad yn gwbl ddwyieithog ac i’w cyhoeddi’n llawn yn Gymraeg a’r un pryd â’r Saesneg.
21/11/2012 - 09:19
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones AS ddefnyddio ei hawl i sicrhau bod adrannau Llywodraeth Prydain yn cydymffurfio â Safonau newydd Mesur y Gymraeg 2011 er mwyn sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaethau Cymraeg priodol i bobl Cymru.
19/11/2012 - 17:41
Cydlynydd Uned Cyswllt y Cynulliad - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Cyflog: £20,000 y flwyddyn pro rata Lleoliad: Caerdydd, ond ystyrier lleoliadau eraill Dyddiad Cau: 12/12/2012 Termau'r Swydd: Cytundeb 1 flwyddyn i gychwyn
13/11/2012 - 15:02
Bydd nifer o gyfarwyddwyr addysg, cynghorwyr arweiniol, prifathrawon, llywodraethwyr ac ymgyrchwyr ymhlith y rhai sydd yn dod at fforwm a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ym Mangor heddiw i drafod llunio system newydd o gyllido a rheoli ysgolion yng Nghymru.
12/11/2012 - 17:19
Wrth ymateb i'r cais i adeiladau 2000 o dai ar Ynys Môn, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
02/11/2012 - 14:12
Cafwyd ple gan ymgyrchwyr iaith heddiw ar i bennaeth y BBC adfer annibyniaeth S4C fel anrheg arbennig ar ben-blwydd y darlledwr yn 30 mlwydd oed.
30/10/2012 - 16:33
Mewn ymateb i'r newyddion bod S4C yn ystyried lleoli’r sianel ar dri phrif safle ar draws Cymru yn lle un prif safle yng Nghaerdydd, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae'n newyddion da iawn bod yr awdurdod yn edrych ar hyn o ddifrif. Ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni wedi bod yn galw am S4C 'newydd', ac un o'n prif alwadau ydy dosbarthu buddsoddiad y sianel yn well ar draws y wlad. Byddai hyn yn gallu
25/10/2012 - 08:36
Mae grwp newydd sy’n lobïo dros gymunedau Cymraeg wedi derbyn hwb ariannol gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, cyhoeddwyd heddiw.
22/10/2012 - 14:58
Mewn ymateb i'r ffigyrau am y nifer o ail dai, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: