Cafodd Jamie Bevan ei ddedfrydu i 35 diwrnod yn y carchar gan ynadon Merthyr Tudful y bore yma am wrthod talu dirwy a orchmynnwyd iddo ei dalu mewn gohebiaeth uniaith Saesneg.
Cafodd Jamie Bevan o Ferthyr Tudful ei erlyn am iddo wrthod talu dirwy a osodwyd arno am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn toriadau i S4C. Defnyddiodd yr achos i brotestio yn erbyn yr ohebiaeth uniaith Saesneg oddi wrth y llysoedd.
Mae ymgyrchydd iaith wedi derbyn gorchymyn llys uniaith Saesneg, hanner can mlynedd wedi i'r un digwyddiad arwain at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Sadwrn Awst 4ydd). Daw'r newyddion ar yr un dyddiad a gafodd y mudiad ei sefydlu ym Mhontarddulais ym 1962.
Mae siop sglodion yng Nghas-gwent wedi agor ei drysau ar ei newydd-wedd heddiw fel y siop Gymraeg gyntaf i bobl ei chyrraedd yng Nghymru. Daw hyn fel rhan o ddathliadau hanner can mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mewn partneriaeth gyda'r mudiad iaith, mae siop sglodion yng nghanol tref Cas-gwent “Sgwar Beaufort” wedi gosod arwyddion dwyieithog ac yn annog staff a chwsmeriaid i ddefnyddio'r iaith. Mae perchnogion yn honni mai dyma'r siop Gymraeg gyntaf yng Nghymru, gan ei fod yn ychydig cannoedd o lathau o'r ffin gyda Lloegr.
I'r Gad
Sioe i ddathlu 50 mlynedd o'r Gymdeithas
Neuadd Llanllyfni
Nos Wener, Awst 3, 7.30
Tocynnau: £5/£3
Os dych chi'n nabod pobl sydd eisiau cefnogi'r sioe, ond sy ddim yn gallu dod, maent yn gallu prynu tocyn, a byddwn ni'n rhoi fo am ddim i berson ifanc yn yr ardal.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi rhybuddio y gallai ymrwymiad cyrff cyhoeddus i'r Gymraeg gael ei israddio fel canlyniad i ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy.
Mae tocynnau gigs Eisteddfod y Gymdeithas wedi mynd ar werth heddiw, gyda threfnwyr yn dweud eu bod wedi cyfuno'r lle rhataf i aros yn ystod y brifwyl gyda'r lein-yp gorau.
Mewn partneriaeth gyda Chlwb Rygbi Llanilltud Fawr, mae'r mudiad wedi sicrhau bod Eisteddfodwyr yn gallu aros mewn pabell am £6 y noson gyda 10% oddi ar bris diodydd i'r rhai sy'n gwersylla.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r newyddion y bydd dyletswydd statudol ar y Cynulliad i gyhoeddi Cofnod cwbl ddwyieithog o'i sesiynau llawn yn dilyn pleidlais ar y Bil Ieithoedd Swyddogol heddiw.