Archif Newyddion

05/06/2012 - 20:48
Fe lansiodd ymgyrchwyr gerdyn post i anfon at Brif Weinidog Cymru yn gwrthwynebu ei bolisi niwclear ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw. Mae'r grwpiau ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn galw ar i Carwyn Jones 'gallio' a gwrth-droi ei benderfyniad diweddar i gefnogi adeiladu adweithyddion niwclear newydd yn y wlad. Mae'r ymgyrchwyr yn dadlau y byddai effaith andwyol ar yr iaith a'r amgylchedd o gefnogi ynni niwclear. Yn siarad cyn y brotest, dywedodd Menna Machreth, llefarydd Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
01/06/2012 - 09:26
Datgelwyd lluniau "ambiwlans" arbennig heddiw a fydd yn cludo ymgyrchwyr iaith o gwmpas y wlad fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bydd taith "Tynged yr Iaith", a enwyd ar ôl anerchiad gan Saunders Lewis ac a sbardunodd sefydlu'r mudiad iaith, yn dechrau ar y daith o faes Eisteddfod yr Urdd ac yn trafod yr heriau i ddyfodol yr iaith ar lefel gymunedol.
24/05/2012 - 12:54
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Olygydd y Western Mail yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol am y darn golygyddol yn y papur heddiw. Mae'r mudiad pwyso hefyd yn sefydlu deiseb ar wefan y Cynulliad yn galw ar i bobl gefnogi argymhellion pwyllgor y Cynulliad dros sicrhau bod dogfennau swyddogol ar gael yn ddwyieithog.
10/05/2012 - 12:01
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu adroddiad gan ACau sydd wedi argymell y dylid gwarantu mewn statud darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cynulliad
08/05/2012 - 10:27
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio'r corff arolygu addysg ESTYN am "geisio gosod agenda gwleidyddol" trwy annog awdurdodau lleol i ad-drefnu a chau ysgolion mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw. Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:
04/05/2012 - 07:52
Cyngor Caerdydd yw'r gorau ymysg cynghorau sir de Cymru yn ei gefnogaeth i'r Gymraeg tra bod Merthyr yw'r gwaethaf, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
15/02/2012 - 20:04
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd - "Sianel 62" - penwythnos hon (8yh, Dydd Sul, 19eg Chwefror) fel rhan o'u dathliadau hanner canmlwyddiant. Sianel 62 fydd y sianel Gymraeg newydd gyntaf ers 30 mlynedd pan fydd yn mynd ar yr awyr ar sianel62.com ddydd Sul yma. Bwriad y Gymdeithas yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh.
20/01/2012 - 16:14
Mae'r frwydr dros ddiogelu tir teulu o Ynys Môn yn ficrocosm o’r frwydr dros gymunedau Cymraeg, dyna fydd neges rali yn erbyn datblygu atomfa niwclear newydd yn y sir heddiw.
18/01/2012 - 09:57
Arwyddodd yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards, a Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr heddiw ddatganiad yn galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros y cyfryngau yng Nghymru fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi llais ar y mater. Dywedodd Jonathan Edwards AS:
17/01/2012 - 09:45
Mae trefnwyr Hanner Cant, yr wyl gerddorol enfawr gaiff ei chynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar y 13eg a'r 14eg o Orffennaf i nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50, wedi cyhoeddi y bydd nifer cyfyngedig o docynnau yn mynd ar werth am bris gostyngol dydd Gwener am hanner dydd. Nos lun, yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar C2 Radio Cymru, dywedodd Huw Lewis, un o drefnwyr yr wyl: