Archif Newyddion

01/09/2011 - 16:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gymunedau sydd mewn peryg o golli eu hysgolion i "ddal eu tir" gan ddweud y gall gwaredigaeth ddod o gyfeiriad annisgwyl.
26/08/2011 - 15:00
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn picedi cyfarfod ysgrifennydd diwylliant llywodraeth San Steffan, Jeremy Hunt, yng Nghasnewydd heddiw, er mwyn dweud wrtho fod rhaid tynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus.
24/08/2011 - 08:12
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwahodd pawb yng Nghymru i gyfrannu at ffilm dorfol arbennig am yr iaith fel rhan o ddathliadau hanner cant mlwyddiant y mudiad.Taflen hyrwyddo (PDF)Mae'r mudiad iaith yn galw ar Gymry Cymraeg i greu ffilmiau munud o hyd - gyda eu ffonau symudol neu gamerau - yn portreadu'r profiad o fod yn Gymro/Gymraes Cymraeg.
23/08/2011 - 12:13
Fe gafodd ymgyrchydd iaith ei garcharu am wythnos heddiw (Dydd Mawrth, Awst 23) ar ôl iddo gymryd rhan mewn protest dros ddyfodol S4C.
16/08/2011 - 12:02
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Weinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, i anfon neges frys at Gyngor Sir Fflint yn eu rhybuddio i beidio â gwastraffu amser ac arian ar gynllun a fyddai'n tanseilio addysg Gymraeg yn y sir.Am 2.30pm brynhawn yfory (Mercher 17/8), bydd y Cyngor yn trafod cynigion i orfodi ysgolion cynradd Cymraeg yn Nhreffynnon a Threuddyn i ddod i drefniant ffurfiol a rhannu campws gydag ysgolion Saesneg cyfagos.
15/08/2011 - 13:38
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu. Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin.
09/08/2011 - 14:38
Yn dilyn y datganiad y bydd Caerfyrddin a Bangor ymhlith y 66 lleoliad drwy wledydd Prydain lle bydd cynigion yn cael eu gwahodd i ddarparu teledu lleol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynnu bod rhaid bod cymal i sicrhau darpariaeth teilwng i'r Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y trwyddedi o'r cychwyn cyntaf.Dywedodd Cadeirydd Sir Gaerfyrddin o'r Gymdeithas, Sioned Elin:"Mae angen osgoi'r problemau a achoswyd mewn radio lleol megis Radio Carmarthenshire pryd roedd yr awdurdodau'n methu mynnu bod darpariaeth ddigonol o ddarlledu Cymraeg.
04/08/2011 - 16:12
Mae'n amser i'r gwleidyddion ddelifro S4C newydd, dyna oedd neges rali ar faes yr Eisteddfod heddiw (2pm, Awst 4ydd).
03/08/2011 - 14:07
Cerddor adnabyddus a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys, yw'r artist cyntaf sydd wedi cadarnhau y bydd yn chwarae yng ngwyl arbennig, '50', i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher, Awst 3) mewn lansiad o'r cynlluniau i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn bumdeg ar faes yr Eisteddfod.Cynhelir yr wyl dros ddwy noson ym Mis Gorffennaf (13 a 14 o Orffennaf 2012) ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid y flwyddyn nesaf.
02/08/2011 - 15:04
Fe gyrhaeddodd dau ymgyrchydd iaith faes yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth Awst 2) ar ol seiclo dros 70 milltir er mwyn tynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.Seiclodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod 'Lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ar faes