Archif Newyddion

20/06/2011 - 09:18
Mae ymgyrchwyr wedi galw ar i benaethiaid y BBC dynnu allan o'u dêl toriadau gyda'r Llywodraeth, wrth ddechrau gwersyll tu allan i stiwdio yn y Gogledd dros ddarlledu heddiw (Dydd Llun, 20 Mehefin).Fe ddechreuodd tua dwsin o ymgyrchwyr gwersylla ar safle Bryn Meirion ger Prifysgol Bangor am tua wyth o'r gloch y bore.
17/06/2011 - 21:30
Mae mudiadau heddwch yn annog pobl i ymuno a nhw mewn gig i gofio Hiroshima a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.Ar nos Wener 5 Awst, fe fydd munud o dawelwch am hanner nos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam i gofio' rheiny a fu farw 66 mlynedd yn ôl.
10/06/2011 - 19:01
Mae'r seren bop Gruff Rhys yn annog Eisteddfodwyr i gael blas ar ei ffilm lwyddiannus am Batagonia yn ystod yr ?yl yn Wrecsam eleni.Mae Separado!, sydd yn daith bersonol i Gruff Rhys, yn rhoi Patagonia mewn cyd-destun diwylliannol ehangach yn yr Ariannin, ac yn pellhau ei hun oddi wrth y ffordd ramantus o ffilmio'r Cymry ym Mhatagonia.Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam ar
08/06/2011 - 13:44
Mae ymgyrchwyr iaith yn ystyried her gyfreithiol dros S4C yn dilyn cadarnhad gan swyddogion uchaf Ewrop heddiw y byddai dirwyiad mewn lefel gwasanaethau teledu Gymraeg yn groes i gyfraith ryngwladol.
07/06/2011 - 11:19
Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 7). Yn ystod ymweliad â Senedd Ewrop yn Strasbwrg bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Chomisiynydd Diwylliant Ewrop Androulla Vasilliou.
07/06/2011 - 09:18
Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw (Dydd Mawrth, Mehefin 7).
05/06/2011 - 19:45
Mae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni.
05/06/2011 - 11:43
Mae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni. Yn ôl yn y 60au, cafodd "DJ Plummy" ei ysbrydoli gan Gymdeithas yr Iaith i gael gwared â'i gasgliad o recordiau Saesneg i lansio'r Disco Cymraeg cyntaf, a newidiodd ei enw i "Mici Plwm".
03/06/2011 - 21:53
Cychwyn ymgyrch dros ddefnydd y Gymraeg yn y Cynulliad Mae ymgyrchwyr iaith yn lansio ymgyrch arlein heddiw i gryfhau presenoldeb y Gymraeg yn y Cynulliad (Dydd Gwener, Mehefin 3).