Archif Newyddion

12/07/2011 - 17:03
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i'r degau ar filoedd o bobl sydd wedi gorfodi i Lywodraeth San Steffan gynnig cyfaddawd ar ddyfodol S4C heddiw (Dydd Mawrth Gorffennaf 12).Fe fydd Gweinidog Llywodraeth San Steffan yn datgan mewn dadl ar ail ddarlleniad y Mesur Cyrff Cyhoeddus heddiw y bydd yn cyflwyno gwelliant ynghylch ariannu'r sianel.Fe ddywedodd y Gymdeithas y byddant yn parhau â'u hymgyrch, gan annog un
08/07/2011 - 18:13
Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gyhoeddi y bydd yn trefnu Noson o Deyrnged - ar ffurf Comedi a Cherddoriaeth - i'r Teulu Brenhinol ac i bawb sy'n ein llywodraethu o Lundain yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol.
08/07/2011 - 09:01
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi peintio'r slogan ACHUB S4C ar furiau adeilad y BBC yn White City Llundain i ddangos eu pryder am sefyllfa S4C.
07/07/2011 - 14:30
Mae dau ymgyrchydd iaith wedi eu dedfrydu heddiw yn yr achos llys cyntaf yn ymwneud ag S4C ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Daeth torf o dros gant o bobl draw i Lys Ynadon Caerdydd i ddatgan eu cefnogaeth. Cafodd Jamie Bevan orchymyn i dalu iawndal o £1,020, costau o £120 a gorchymyn 'curfew' am 28 niwrnod.
04/07/2011 - 14:15
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i Aelodau Cynulliad adfer Aled Roberts fel Aelod Cynulliad yn dilyn y camwahaniaethu ieithyddol yn ei erbyn. Mae'r mudiad iaith nawr yn gofyn am ymddiheuriad ffurfiol gan y Llywydd a'r Comisiwn Etholiadol am y driniaeth a gafodd ac yr oedi rhag datrys y sefyllfa.
02/07/2011 - 11:00
Bu ymgyrchwyr yn galw am 'newidiadau radical' yn y gyfundrefn cynllunio mewn protest yn erbyn datblygiad tai enfawr yng ngogledd Cymru heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2).Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynllun i godi dwy fil o adeiladau newydd ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych, cynllun a fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55.Cafodd y brotest, tu allan i neuadd y s
01/07/2011 - 18:27
Yn ymateb i adroddiad 'Cyhoeddi gweledigaeth S4C ar gyfer 2012-2015 ' a gyhoeddwyd gan S4C heddiw, dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r adrod
25/06/2011 - 12:41
Mae dros fil o bobl wedi llofnodi deiseb o blaid Cofnod llawn ddwyieithog o'r trafodaethau yn y Cynulliad ers iddi gael ei lansio wythnos ddiwethaf.
23/06/2011 - 09:00
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dringo gorsaf drosglwyddo heddiw (Dydd Iau, Mehefin 23) ac wedi darlledu fideo trwy eu ffôn symudol i ddangos eu pryderon am ddyfodol darlledu yng Nghymru.Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, os yw'r cynlluniau presennol i dorri S4C a rhoi'r sianel dan y BBC yn parhau gallai fod ddim byd i'w ddarlledu yn Gymraeg.
22/06/2011 - 18:46
Mae ymgyrchwyr ac undebau wedi cynnal lobi tu allan i gyfarfod rhwng Cadeirydd newydd y BBC Chris Patten ac Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd dros ddyfodol darlledu yng Nghymru heddiw (17:30, Mehefin 22).Yn yr hydref y llynedd, fe gytunodd y BBC i gymryd drosodd ariannu S4C fel rhan o ddel sydd yn golygu cwtogi ar gyllideb y sianel o dros bedwar deg y cant mewn termau real.