Fe gyflwynodd Archdderwydd Cymru a chyn Aelod Cynulliad Owen John Thomas ddeiseb a lofnodwyd gan dros 1,500 o ymgyrchwyr yn galw am gofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad heddiw.Wrth i'r Cynulliad ymgynghori ar ei Fil Ieithoedd Swyddogol, fe fydd yr ymgyrchwyr yn galw am sicrhad ar wyneb y Bil y bydd y Cofnod llawn ar gael yn Gymrae
Bu Aelod Cynulliad Rhyddfrydol yn cefnogi galwadau ymgyrchwyr iaith i ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C i Gymru mewn rali dros ddyfodol darlledu yn Wrecsam Dydd Sadwrn, Medi 8fed.Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r daflen a ddosbarthwyd yn ystod y rali (
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benodiad Comisiynydd y Gymraeg newydd, Meri Huws.Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn croesawu'r ffaith bod yna benodiad, gobeithiwn y bydd Meri Huws yn cymryd y cyfle i gydnabod y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg.
Fe fydd ymgyrchwyr iaith yn trafod sefydlu grwp i oruchwylio gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar ôl dechreuad 'anweledig' i'r corff yn nhyb y grwp pwyso.Un o addewidion Llywodraeth Cymru blaenorol oedd sefydlu corff annibynnol, Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod disgyblion addysg c
Mae grwp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos o flaen pencadlys S4C heno i dynnu sylw at y bygythiadau i'r sianel.Fe fydd yr ymgyrchwyr hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel sefyll lan yn erbyn cynlluniau'r BBC a'r Llywodraeth a ddaw â'r sianel fel darlledwr annibynnol i ben.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i ymddiriedolwr y BBC ymddiswyddo ar ôl i'r darlledwr llofnodi cytundeb a fydd yn golygu y bydd ganddyn nhw reolaeth lwyr dros gyllideb S4C.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwestiynu pwrpas swydd Elan Closs Stephens, y cynrychiolydd o Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, gan fod y corff wedi gwthio penderfyniad a fydd yn rhoi dy
Mae ymgyrchwyr iaith wedi addo brwydro ymlaen dros ddarlledu Cymraeg ar ôl colli cais i achub S4C o 1 bleidlais yn Nhy'r Cyffredin heddiw.Mynegwyd siom am benderfyniad Glyn Davies AS (Ceidwadwr, Sir Drefaldwyn) a Stephen Crabb AS (Ceidwadwr, Preseli Penfro) oherwydd iddynt anwybyddu barn eu cyd-Aelodau Seneddol Ceidwadol a feirniadodd y cwtogi a'r newidiadau i'r sianel mewn adroddiad trawsbleidiol yn gynharac
Mae nifer o fudiadau wedi gwneud apêl munud olaf at ASau i bleidleisio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C yfory (Dydd Iau, Medi 15).Mae tri Aelod Seneddol, y Rhyddfrydwr Mark Williams, Aelod Llafur Susan Elan Jones a Hywel Williams o Blaid Cymru, wedi cyflwyno gwelliant i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus mewn ymdrech i dynnu S4C allan o'r Mesur.
Gall fod dim allbwn Cymraeg ar Radio Ceredigion yn fuan ar ôl i'r rheoleiddiwr darlledu OFCOM ganiatáu i'r tendr am drwydded fynd allan heb unrhyw amodau iaith i'r gwasanaeth.Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgyrch gref yn lleol fis Gorffennaf a lwyddodd i wrthod cais perchnogion Radio Ceredigion - Town and Country Broadcasting - i gwtogi ar allbwn Cymraeg presennol yr orsaf.Ym mis Mawrth 2010, gofynnodd Bwrdd yr Iaith Gy