Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n croesawu'r newyddion y bydd Cofnod dwyieithog yn cael ei ddarparu eto, mae'n dangos bod ymgyrchu miloedd o bobl wedi dechrau dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, mae'r cynlluniau hefyd yn parhau i drin y Gymraeg yn israddol gan fod rhaid aros am bum diwrnod i gael fersiwn Cymraeg, yn groes i'r arfer rhwng 2005 a 2009. Yn amlwg, gan fod y Comisiwn wedi tanwario o tua £2 miliwn eleni, nid yw'r anghyfartaledd hwn yn fater o gost ond ewyllys gwleidyddol."
Mae ymgyrchwyr wedi codi amheuon am yr asesiad effaith iaith a gomisiynwyd ynghylch yr atomfa niwclear newydd arfaethedig ar Ynys Môn.
Mae'r pryderon yn dilyn y newyddion mai'r cwmni a ddatblygir Wylfa B benderfynodd ar bwy fydd yn gwneud yr astudiaeth, yn hytrach nag awdurdodau cynllunio.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi anfon neges at Gyngor Sir Powys o flaen cyfarfod yfory (Dydd Mawrth 22/11) i'w rhybuddio nad ydynt yn gweithredu'n gyfreithlon o ran eu cynlluniau i gwtogi ar addysg uwchradd Gymraeg. Bydd y Cyngor llawn yfory'n trafod argymhelliad i gyfyngu addysg gyfrwng-Gymraeg chweched dosbarth i 3 safle yn unig trwy'r sir.Mewn neges at arweinydd y Cyngor, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Byddai terfynu'n syth addysg Gymraeg yn chweched dosbarth Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn debygol o fod yn anghyfreithlon ar sawl cyfri.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi deiseb Deffro'r Ddraig sydd yn galw am ad-alw holl Gynlluniau Datblygu Lleol drwy Gymru oherwydd pryder fod tai di-angen yn cael eu codi.
'Cyfle i ddweud diolch', dyna sut mae ymgyrchwyr S4C wedi disgrifio achos llys yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans o flaen Ynadon ym Mhontypridd heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 4ydd).
Ers Hydref llynedd, mae dros gant a hanner o ymgyrchwyr, megis y canwr Bryn Fôn a'r Parchedig Guto Prys ap Gwynfor, wedi datgan eu bwriad i wrthod talu'r drwydded deledu.
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y Sul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan y bydd yn cynghori aelodau i ddechrau talu eu trwydded deledu eto.
Mae tri aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - Jamie Bevan, Colin Nosworthy a Bethan Williams - wedi torri ar draws trafodaeth yn Nhy'r Cyffredin ar y Mesur Cyrff Cyhoeddus fydd yn effeithio yn uniongyrchol ar ddyfodol S4C.
Wrth iddynt gael eu hebrwng allan o'r siambr dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r holl drafod sydd wedi bod ar ddyfodol S4C wedi bod yn broses annemocrataidd sydd wedi digwydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac fe gafodd pobl Cymru eu heithrio yn gyfan gwbl o'r drafodaeth.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i gyhoeddiad y BBC am gyllideb a threfniant llywodraethol S4C heddiw.Meddai Adam Jones, llefarydd darlledu'r mudiad iaith:"Trwy gydol y broses hon, rydyn ni wedi galw ar i'r gwleidyddion a'r darlledwyr i wrando ar lais bobl Cymru, ond dyw hynny heb ddigwydd.
Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo'r BBC o weithredu yn 'annemocrataidd' trwy baratoi i gyhoeddi manylion am ddyfodol S4C tra bod trafodaethau San Steffan yn parhau.Disgwylir i'r BBC gyhoeddi cynnig am gyllido S4C rhwng 2015 a 2017, er nad oes grym statudol iddynt wneud hynny gan fod unrhyw gytundeb yn dibynnu ar ganiatâd Seneddol.