Archif Newyddion

03/01/2013 - 13:04
Cafodd datganiad o gefnogaeth i gerddorion Eos ei ryddhau gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw.
31/12/2012 - 13:48
Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
16/12/2012 - 12:18
‘Ymateb cadarnhaol i argyfwng yr iaith’ - dyna sut mae ymgyrchwyr wedi disgrifio'r ‘maniffesto byw’ a lansiwyd mewn rali yng Nghaernarfon.
16/12/2012 - 10:57
DAETH 400 o bobl i rali Cymdeithas yr Iaith i godi llais am ganlyniadau'r Cyfrifiad heddiw. Cododd y dorf arwyddion yn dweud 'dwi eisiau byw yn Gymraeg' yn lansio ymgyrch newydd y Gymdeithas.Yn ystod y rali, lansiodd y mudiad  ‘maniffesto byw’ fel ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad. Mae’r maniffesto yn cynnwys dros ugain o bolisïau gyda’r nod o wrth-droi dirywiad y Gymraeg a welwyd yng nghanlyniadau’r Cyfrifiad yn gynharach yr wythnos hon.
13/12/2012 - 13:13
Annwyl Gyd-Ymgyrchwyr, Am wythnos i ddod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith! Mae canlyniadau'r cyfrifiad yn dangos bod argyfwng yn ein cymunedau, a bod sefyllfa'r Gymraeg yn un argyfyngus. Gallwn ni yng Nghymdeithas yr iaith fod yn ganolog i'r chwyldro bydd yn gwrthdroi'r dirywiad ac yn creu cymunedau Cymraeg cynaliadwy.
12/12/2012 - 15:54
Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi peintio sloganau ar swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych oherwydd cynlluniau i ganiatáu adeiladu miloedd o dai diangen yn y sir.
11/12/2012 - 10:38
  ‘Mae’r Gymraeg mewn argyfwng’, dyna ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ystadegau Cyfrifiad 2011 a gafodd eu rhyddhau heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 11).  
06/12/2012 - 10:02
Mae llai nag un ymhob tair mil o geisiadau cynllunio yn cael eu hasesu am eu heffaith ar yr iaith Gymraeg yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
04/12/2012 - 10:08
Gallai deddfwriaeth newydd yn ymwneud â datblygu cynaliadwy, a gafodd ei chyhoeddi heddiw, danseilio strategaeth iaith y Llywodraeth, yn ôl ymgyrchwyr. Mae'r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil Datblygu Cynaliadwy a fydd yn gwneud datblygu cynaliadwy yn 'prif egwyddor drefniadol' ar gyfer penderfyniadau strategol cyrff cyhoeddus.