Archif Newyddion

03/03/2013 - 22:39
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymuno â grŵp o sefydliadau amlwg eraill i alw am newidiadau sylweddol i gyfraith arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gynaliadwyedd, gan bryderu bod cynigion diweddaraf y Llywodraeth yn rhy wan i gyflawni’r addewidion beiddgar a wnaethpwyd gan weinidogion. Anfonwch neges at Lywodraeth Cymru yn galw am gynnwys y Gymraeg yn y Mesur
27/02/2013 - 11:52
Yn ei hymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynnig Cyngor Ynys Mon i gau Ysgol Llanddona, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r Cyngor o gydweithio mewn bwriad i droi ardaloedd gwledig Cymraeg yn ardaloedd tawel ar gyfer mewnfudwyr wedi ymddeol. Wrth gynnig tystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, dywed Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas fod yr Asesiad Effaith Gymunedol o gau'r ysgol "yn cydnabod y bydd cau ysgol yn atal teuluoedd ifainc rhag ymgartrefu
27/02/2013 - 11:47
Yn ei hymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynnig Cyngor Ynys Mon i gau Ysgol Llanddona, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r Cyngor o gydweithio mewn bwriad i droi ardaloedd gwledig Cymraeg yn ardaloedd tawel ar gyfer mewnfudwyr wedi ymddeol. Wrth gynnig tystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, dywed Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas fod yr Asesiad Effaith Gymunedol o gau'r ysgol " yn cydnabod y bydd cau ysgol yn atal teuluoedd ifainc rhag ymgartrefu
27/02/2013 - 11:42
Yn ei hymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynnig Cyngor Ynys Mon i gau Ysgol Llanddona, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo'r Cyngor o gydweithio mewn bwriad i droi ardaloedd gwledig Cymraeg yn ardaloedd tawel ar gyfer mewnfudwyr wedi ymddeol. Wrth gynnig tystiolaeth ar gyfer yr ymgynghoriad, dywed Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas fod yr Asesiad Effaith Gymunedol o gau'r ysgol " yn cydnabod y bydd cau ysgol yn atal teuluoedd ifainc rhag ymgartrefu
25/02/2013 - 19:07
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i'r newyddion bod y Gweinidog Leighton Andrews wedi gwrthod y safonau iaith a gafodd eu cynnig gan Gomisiynydd y Gymraeg.  Mae'r Gymdeithas yn pryderu fod y Gweinidog wedi ildio i bwysau gan y sector breifat a lobiwyr eraill i wanhau gwasanaethau Cymraeg. Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
18/02/2013 - 18:26
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod y Cynghorydd Myfanwy Alexander, sy'n dal portffolio Dysg a Hamdden ar ran Cabinet Cyngor Sir Powys, wedi camarwain y cyhoedd mewn datganiad a wnaeth i Golwg 360 heddiw (brynhawn Llun). Wrth ymateb i gyhuddiad y Gymdeithas fod y Cyngor yn chwalu'n fwriadol y gymuned yng Ngharno ac yn gorfodi mwyafrif y disgyblion allan o addysg Gymraeg, dywedodd y Cyng Alexander wrth "Golwg" fod "digon o le yn Ysgol Llanbrynmair" Dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis,
18/02/2013 - 16:38
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Powys i dynnu’n ol ar unwaith ei fygythiad i gau Ysgol gyfrwng-Cymraeg Carno gan honni y byddai gweithred o’r fath yn “ymosodiad cwbl unigryw ar gymuned ac ar addysg gyfrwng-Cymraeg. Ni allai’r “ysgol dderbyn” arfaethedig (Ysgol Llanbrynmair) gymryd ond llai na hanner y 46 o ddisgyblion o Ysgol Carno ac, o ganlyniad, byddai’r gymuned o blant yn cael ei rhannu o reidrwydd.
06/02/2013 - 21:26
Annwyl Aelodau, Diolch i’r miloedd ohonoch sydd wedi gyrru neges glir i Carwyn Jones eich bod “EISIAU BYW YN GYMRAEG”. Wrth ddod i Ralïau’r Cyfrif yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Caerfyrddin, y Bala ac ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, ebostio Carwyn Jones, cyfrannu at yr hysbyseb yn y papurau newydd heddiw, rydych wedi dangos beth sydd angen ei wneud - gweithredu!
06/02/2013 - 11:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newidiadau polisi yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad mewn hysbysebion papurau newydd heddiw, wrth i aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gwrdd â’r Prif Weinidog.
05/02/2013 - 13:11
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llwyddiant ymdrechion eu haelodau lleol ar ôl i Gyngor Merthyr ddarparu gwefan sydd yn rannol ddwyieithog, ond wedi mynegi pryderon am ddiffyg darpariaethau Cymraeg eraill gan y cyngor. Wedi blwyddyn o ymgyrchu gan aelodau lleol a arweiniodd at ymchwiliad gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg aeth gwefan ddwyieithog y cyngor ar-lein ddechrau’r flwyddyn newydd.