Neges y Gymdeithas i Arweinwyr Cyngor
Am y tro cyntaf ers sefydlu'r Cyngor ym 1996, bu cyfarfod heddiw rhwng arweinwyr Cyngor Sir Caerfyrddin a Chymdeithas yr Iaith. Cynhaliwyd y cyfarfod yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd mai yn Sir Gâr y bu'r cwymp gwaethaf yng Nghymru o ran siaradwyr Cymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn sgil ymddiswyddiad Leighton Andrews.
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
Ar ddydd Mercher 26ain o Fehefin, bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi galwadau i gryfhau'r Gymraeg gerbon Cyngor Sir Gaerfyrddin wrth iddynt lansio Siarter Sir Gâr.
Mae'r Siarter, sydd yn ymwneud â meysydd tai a chynllunio, addysg, iechyd, hamdden a defnydd y Gymraeg o fewn y Cyngor Sir; yn ddogfen o alwadau radical, ond ymarferol, i'r Cyngor eu gweithredu.
Dywedodd Heledd ap Gwynfor, aelod o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain nad oes modd gwneud toriadau pellach i S4C, cyn i’r adolygiad gwariant cynhwysfawr gael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.
[CLICIWCH YMA I ANFON NEGES YN GWRTHWYNEBU TORIADAU PELLACH I S4C]
Mae ymgyrchwyr iaith wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar ôl cael cwynion am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Y Gynhadledd Fawr - ar sefyllfa’r Gymraeg a gyhoeddwyd yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad.
Daeth cynrychiolaeth o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn Sir Ceredigion i gyflwyno deiseb i alw ar y Cyngor Sir i sicrhau y gallan nhw fyw yn Gymraeg yn y sir.
Mae rhai o Gymry Cymraeg mwyaf adnabyddus Caerdydd wedi llofnodi llythyr cyhoeddus at Gyngor Dinas Caerdydd yn mynegi eu pryder am gwtogiadau i wasanaethau Cymraeg ychydig ddyddiau cyn gwyl fawr yn y ddinas.
Mewn Cyfarfod Cyffredinol o aelodau Cymdeithas yr Iaith a gynhaliwyd yn Rhydaman dros y Sul, cytunwyd i ddanfon ymateb Llywodraeth Cymru i "Maniffesto Byw" y Gymdeithas yn ôl at Carwyn Jones, gan ofyn iddo am ymateb mwy ystyrlon i'r cynigion.
Mewn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith prynhawn 4ydd o Fehefin, cytunodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych i wahodd Comisiynydd y Gymraeg i asesu effaith eu Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg.
Mae’r Gymdeithas yn galw arnynt i oedi eu Cynllun Datblygu Lleol tan y bydd TAN20 sy’n mesur effaith cynllunio ar y Gymraeg wedi ei gyhoeddi, hefyd i gyhoeddi adroddiad pwnc ar y Gymraeg ac i greu targedau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir fesul cymuned.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion bod y Cynghorydd Mair Stephens wedi ei phenodi fel aelod cabinet newydd yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg.