Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i benderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i bolisi iaith Cyngor Torfaen ar ôl i’r Cyngor lansio llinell ffôn uniaith Saesneg ddiwedd mis Mehefin.
Fis diwethaf galwodd Cymdeithas yr Iaith ar Gomisiynydd y Gymraeg i ddefnyddio’i phwerau statudol i gynnal ymchwiliad i fethiannau’r Cyngor.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi heddiw restr o bobl amlwg sydd wedi llofnodi llythyr agored at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi galwad am chwyldroi addysg Gymraeg. Mae’r rhestr yn cynwys yr Archdderwydd, Aelodau Cynulliad a Seneddol a chynghorwyr lleol, yn ogystal ag addysgwyr a rhai sy’n gweithio gyda phobl ifainc ym maes chwaraeon.
MAE gan Carwyn Jones chwe mis i brofi nad ‘siop siarad’ oedd y Gynhadledd Fawr, yn ôl ymgyrchwyr iaith sydd wedi gosod wltimatwm i Lywodraeth Cymru heddiw.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweld symud ar chwe phwynt polisi er mwyn profi bod y Gynhadledd Fawr wedi bod yn werth chweil. Mae’r llythyr yn gofyn i Carwyn Jones weithredu ar y chwe phwynt polisi canlynol:
Mae’r Prif Weinidog yn wynebu ei ‘brawf cyntaf’ yn sgil ei gyfrifoldeb newydd dros y Gymraeg wrth iddo benderfynu ar y safonau iaith newydd, yn ôl ymgyrchwyr a fydd yn lansio addewid dros hawliau ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Daeth busnes Marks and Spencer Caerfyrddin i stop am hanner awr prynhawn yma (dydd Sadwrn 3ydd o Awst) wedi i aelodau o Gymdeithas yr Iaith wrthod talu am eu siopa.
Mae galwadau dros hawliau i gael gofal iechyd yn Gymraeg wedi cynyddu wedi i Aelod Cynulliad, a gollodd ei allu i siarad Saesneg yn ystod salwch difrifol y llynedd, ddatgelu nad oedd staff yn gallu cyfathrebu gyda fe yn Gymraeg mewn ysbyty yng Nghaerdydd.
Cyngor “ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud” - medd Cymdeithas yr Iaith
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Caerdydd i ail-ystyried ei gynllun ad-drefnu addysg yn y ddinas wedi i'r Prif Weinidog gadarnhau eu bod yn gweithredu'n groes i'w gynllun addysg Gymraeg eu hunain.
Byddai Cyngor Caerdydd yn gweithredu yn groes i’w gynllun addysg ei hunan petai ei weinyddiaeth Lafur yn penderfynu peidio ag adeiladu ysgol Gymraeg yn ardal Grangetown, medd Prif Weinidog Cymru.