Archif Newyddion

06/01/2014 - 18:13
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai’r safonau iaith Llywodraeth Cymru - rheoliadau a fydd yn gosod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg - fod yn wannach na chynlluniau iaith wedi’r cyhoeddiad heddiw.
03/01/2014 - 10:54
Ar gychwyn y flwyddyn newydd, mae aelodau o'r mudiad iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn rhybuddio y gall 2014 fod yn flwyddyn dyngedfennol i ddyfodol y Gymraeg yn siroedd Gwynedd a Môn. Yn ystod y flwyddyn mi fydd Cynghorau Sir Gwynedd a Môn yn penderfynu cymeradwyo neu beidio eu Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd, cynllun sydd am weld adeiladu bron i 8,000 o dai rhwng y ddwy sir yn ystod y deg mlynedd nesaf.
02/01/2014 - 13:24
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Ceredigion o wastraffu arian ac amser gyda ffug brosesau ymgynghori sydd at bwrpas "ticio blychau" yn unig. Erbyn Ddydd Llun nesaf (6/1) daw ymgynghoriad i ben ar bapur y Cyngor ynghylch creu Ysgol newydd yn Llandysul, a'r wythnos ganlynol daw ymgynghoriad i ben ar gynnig y Cyngor i gau Ysgol Dihewyd. Mae'r Gymdeithas yn honni mai mynd trwy gamau gwag y mae'r Cyngor wrth honni ymgynghori a'u bod yn gwneud canllawiau'r Llywodraeth yn destun gwawd.
31/12/2013 - 16:10
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diystyru proses ymgynghori Cyngor Sir Caerfyrddin wrth iddyn nhw edrych ar eu cyllideb, gan ei ddisgrifio yn “amherthnasol ar y gorau ac yn niweidiol i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg.”
31/12/2013 - 09:27
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi ei Fesur Cynllunio ei hun fel rhan o’i ymgyrch i chwyldroi’r system cynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol - dyna addewid Cadeirydd y mudiad yn ei neges blwyddyn newydd.
23/12/2013 - 18:36
Anfonodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ddim un ebost yn Gymraeg dros gyfnod ym mis Medi, er iddo lansio ymgyrch yn annog pobl eraill i ebostio pum gwaith y dydd yn yr iaith. 
23/12/2013 - 09:00
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon cerdyn llongyfarchiadau tafod-mewn-boch at Gyngor Casnewydd am fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru heb wefan Gymraeg.
14/12/2013 - 17:51
Gosododd ymgyrchwyr iaith gloeon ar adeilad Llywodraeth Cymru heddiw (Rhagfyr 14) er mwyn galw am chwe newid polisi er lles y Gymraeg, gan nodi blwyddyn ers i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith.
11/12/2013 - 13:18
Mae hysbysebion sy’n galw ar i’r Llywodraeth weithredu mewn ymateb i’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg wedi ymddangos yn y wasg heddiw, union flwyddyn ers i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos bod cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith.
10/12/2013 - 11:37
Dylai fod blaenoriaeth i bobl leol yn y system gynllunio er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg - dyna un o argymhellion papur polisi a gyflwynir gan Gymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Bil Cynllunio heddiw.