Archif Newyddion

25/04/2014 - 09:42
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu a chau prif fynedfa swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays Caerdydd heddiw,  gan ddweud bod diffyg gweithredu’r Prif Weinidog mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad, a ddangosodd cwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg, yn creu ‘argyfwng wleidyddol’.
24/04/2014 - 09:04
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei arestio am chwistrellu paent ar swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd gan alw am chwe newid polisi er mwyn cryfhau’r Gymraeg mewn ymateb i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.
22/04/2014 - 10:14
Ar ddydd Iau, cyflwynodd aelodau o gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb i gyngor Caerdydd yn ystod cyfarfod llawn, yn gofyn i’r cyngor weithredu’n gadarnhaol er mwyn sicrhau dyfodol lewyrchus i’r Gymraeg yn y brifddinas. Lansiwyd y ddeiseb yn ystod gwyl Tafwyl y llynedd ac ymysg galwadau’r ddeiseb mae gwrthdroi toriadau i gyllid yr ŵyl. Mae’r ddeiseb hefyd yn galw ar y cyngor i gynllunio’n bwrpasol a rhagweithiol i ateb y galw cynyddol sydd yn y ddinas am addysg Gymraeg.
17/04/2014 - 14:50
Annwyl gyfaill, Ydych chi eisiau hawliau clir a chadarn i ddefnyddio gwasanaethau yn Gymraeg?    Os felly, cymerwch 30 eiliad i anfon yr ebost isod at Gomisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru a'ch Aelodau Cynulliad lleol er mwyn gwella'r safonau iaith drafft. Mae’n rhaid ei anfon erbyn diwedd dydd Gwener yma!
15/04/2014 - 11:01
Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Caerfyrddin i dderbyn strategaeth iaith newydd yn eu cyfarfod heddiw. Mae'r strategaeth wedi ei seilio ar argymhellion adroddiad 'Gweithgor y Cynulliad', gweithgor a sefydlwyd yn dilyn cyhoeddi ffigurau'r Cyfrifiad a ddangosodd ddirywiad difrifol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:
14/04/2014 - 08:52
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Bro Morgannwg i ymddiheuro am ei ymateb ‘rhagfarnllyd’ i ymgynghoriad am ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
08/04/2014 - 13:28
Mae’r Gymdeithas yn trefnu cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar ei Fil Cynllunio amgen er mwyn derbyn adborth ar ei gynnwys, er mwyn hybu trafodaeth am y pwnc a newidiadau polisi a fyddai’n cryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith a’r iaith yn ehangach. Cyfarfodydd Cyhoeddus NA i dai di-angen ym Mhen Llyn - Cyfarfod Cyhoeddus Capel y Drindod Pwllheli
04/04/2014 - 19:36
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gig yn Llanelli ar ddydd Gwener 11eg o Ebrill, gyda pedwar band ifanc o Sir Gâr yn cymryd rhan, er mwyn lansio un o'r lleoliadau y byddan nhw'n defnyddio ar gyfer gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd y Gymdeithas yn cynnal gigs mewn tri lleoliad yn ystod wythnos yr Eisteddfod sef y Thomas Arms, Clwb Rygbi Ffwrnes a'r Kilkenny Cat, lle bydd nifer o fandiau ac artisiaid gorau Cymru yn rhan o ddigwyddiadau'r wythnos.
04/04/2014 - 15:15
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r newyddion bod Neuadd Pantycelyn yn cael ei chadw ar agor. Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch i fyfyrwyr Pantycelyn am ennill buddugoliaeth a fydd yn rhoi hwb i bawb sy'n brwydro dros ddyfodol eu cymunedau Cymraeg. Dyfodol yr iaith yw dyfodol ein cymunedau - yn eu holl amrywiaeth." Mwy o wybodaeth:
04/04/2014 - 09:52
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai. Mae’r polisi yn un o’r argymhellion ym Maniffesto Byw y mudiad iaith a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.