Archif Newyddion

02/06/2014 - 16:02
Mewn cyfarfod protest ar faes yr Eisteddfod heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cwyno fod Awdurdodau Lleol Cymru yn rhy barod i wneud "gwaith budr" y llywodraeth drostynt yn lle gwneud safiad dros y cymunedau Cymraeg a gynrychiolant.
28/05/2014 - 20:49
Bydd teimlad lleol i gigs y Gymdeithas yn Eisteddfod Sir Gâr eleni, a fydd yn cael eu cynnal mewn tri lleoliad yn Llanelli – Clwb Rygbi Ffwrnes, y Thomas Arms a'r Kilkenny Cat - mae’r mudiad iaith wedi cyhoeddi.
27/05/2014 - 09:01
Mae grŵp o brotestwyr iaith wedi bod yn cysgu ar uned Llywodraeth Cymru yn Eisteddfod yr Urdd heddiw (1pm, Dydd Llun Mai 26) er mwyn protestio yn erbyn ei diffyg ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad a ddangosodd gwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.
23/05/2014 - 14:57
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddyfarniad Comisiynydd y Gymraeg bod y cwmni yswiriant Swinton wedi bod yn atal staff a chwsmeriaid rhag siarad Cymraeg. Dyma'r tro cyntaf i'r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau newydd o dan Fesur y Gymraeg (2011) a sefydlodd rhyddid cyfreithiol i unigolion allu siarad Cymraeg ymysg ei gilydd.
20/05/2014 - 12:47
Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar swyddfeydd y Llywodraeth yng Nghaernarfon y bore yma gan alw ar i’r Prif Weinidog Carwyn Jones fabwysiadu newidiadau polisi mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
15/05/2014 - 14:18
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio datganiad Carwyn Jones y bydd "yn well dal arni am ychydig ar ein hymateb" i adroddiad yr Athro Sioned Davies am weddnewid dysgu Cymraeg ail iaith yn y cwricwlwm.
12/05/2014 - 11:04
Mae tri ymgyrchydd wedi chwistrellu paent ar swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud bod diffyg gweithredu’r Prif Weinidog mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad wedi eu hysgogi i weithredu.
09/05/2014 - 21:22
Mae nifer o fudiadau a Chymry blaenllaw wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i’r drefn gynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, cyhoeddodd y mudiad iaith heddiw.
07/05/2014 - 14:35
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i sylwadau Rhodri Talfan Davies am S4C.
06/05/2014 - 16:46
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau heddiw destun llythyr a anfonwyd gan 18 o addysgwyr a Chymry amlwg yn galw ar Carwyn Jones i weithredu ar frys i sicrhau fod holl ddisgyblion Cymru'n meistroli'r Gymraeg. Ymhlith y rhai a lofnododd y llythyr hwn y mae'r addysgwyr a thiwtoriaid iaith amlwg Ioan Talfryn, Cefin Campbell, Simon Brooks a Nia Royles, cyn-Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Meirion Prys Davies, yr Archdderwydd Christine James a'r Brifardd Mererid Hopwood, yr Aelod Cynulliad Llyr Huws-Gruffydd, a Robin McBryde o dim hyfforddi rygbi Cymru.