Swinton: ymddygiad y cwmni yn haeddu cosb lem

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i ddyfarniad Comisiynydd y Gymraeg bod y cwmni yswiriant Swinton wedi bod yn atal staff a chwsmeriaid rhag siarad Cymraeg.

Dyma'r tro cyntaf i'r Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau newydd o dan Fesur y Gymraeg (2011) a sefydlodd rhyddid cyfreithiol i unigolion allu siarad Cymraeg ymysg ei gilydd.

Dywedodd Jamie Bevan, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae’n gwbl annerbyniol bod cwmnïau yn torri’r gyfraith yn y fath modd. Mae'r dyfarniad yn tanlinellu bod problemau erchyll yn y sector breifat o ran atal staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. Un o’r pethau rydyn ni wedi galw ar i’r Comisiynydd wneud yw rhedeg ymgyrch farchnata er mwyn sicrhau bod cwmnïau yn ymwybodol o’r gyfraith. Rydyn ni'n falch bod y Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad ac wedi dod i’r casgliad hwn, ond dylai hi fod wedi condemnio’r ymddygiad erchyll hwn mewn ffordd gryfach.”

“Mae pryder gennym fod y Comisiynydd yn gweithredu mewn ffordd hen ffasiwn, fel ei rhagflaenydd, Bwrdd yr Iaith, mae hi wedi dod i’r casgliad bod corff ar fai, ond ble mae’r gosb? Ble mae’r dilyniant? Dyw e ddim yn glir a yw hi wedi ceisio newid canllawiau'r rheoleiddiwr ariannol sy wedi arwain at y problemau ofnadwy hyn chwaith.”