Archif Newyddion

28/07/2014 - 20:49
Am gyfle i ennill tocyn i bob un o gigs Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod Llanelli rhanna'r neges hon ar facebook neu ei ail-drydar hwn ar Twitter. Bydd angen i chi rannu'r neges(euon) uchod cyn 9pm nos Fawrth y 29ain o Orffennaf i fod yn rhan o'r gystadleuaeth.
25/07/2014 - 10:22
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad o effaith iaith y gyllideb nesaf gan anwybyddu dros hanner ei gwariant, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
23/07/2014 - 08:49
Wrth i aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin lunio ymateb i newidiadau i Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:  
20/07/2014 - 16:39
Mae gan Gymdeithas yr Iaith ddigonedd o gigs a digwyddiadau eleni ar faes yr Eisteddfod i’ch diddanu chi. “Parti” fydd prif thema’r wythnos: byddwn ni’n cynnal parti drwy’r wythnos ar ein huned, a bydd y parti mwyaf erioed ar faes yr Eisteddfod ar ddiwedd yr wythnos. Gobeithio y gallwn ni i gyd ddathlu, yn ystod yr wythnos, bod gweithredoedd mawr ar y gweill gan Gyngor Sir Gâr a Llywodraeth Cymru - ond mewn bwced o rew mae’r champagne ar hyn o bryd!
18/07/2014 - 22:13
Fydd yr hawliau iaith cyntaf i gael gwasanaethau Cymraeg ddim yn weithredol tan y flwyddyn nesaf - 5 mis yn hwyrach nag a gynlluniwyd - wedi ymateb hallt i ddrafft reoliadau Llywodraeth Cymru.     
11/07/2014 - 10:53
Mae nifer o gerddorion wedi galw am ddileu targedau tai cenedlaethol er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw. Ymysg yr un cerddor ar ddeg sydd wedi datgan awydd i symud i system a fyddai’n gwneud anghenion lleol yn ganolbwynt i’r system gynllunio mae’r diddanwr Dewi Pws Morris, cantores y band Clatshobant Delyth Wyn ac aelodau’r band Edward H Dafis, Cleif Harpwood o Borth Talbot, a Hefin Elis o Gaernarfon.
08/07/2014 - 20:08
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio toriadau pellach o bron i £700,000 i Gymraeg i Oedolion a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw.  
07/07/2014 - 20:46
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin am eglurhad brys pam nad oes unrhyw beirianwaith mewn lle i weithredu strategaeth iaith newydd a fabwysiadwyd gan y Cyngor ddechrau mis Ebrill. Esboniodd cadeirydd y Gymdeithas yn lleol, Sioned Elin:
06/07/2014 - 11:04
"Gweithredwch argymhellion yr arbenigwyr", dyna neges Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth bwyllgor sy'n adolygu'r cwricwlwm addysg, gan fynnu na ddylai fod rhagor o oedi rhag cyflwyno addysg Gymraeg i bob plentyn.  
30/06/2014 - 10:22
Mae degau o gefnogwyr y Gymraeg wedi dechrau ympryd 24 awr heddiw (Dydd Llun, Mehefin 30) gan fynnu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r gyfraith cynllunio er lles yr iaith ar lefel gymunedol.