Archif Newyddion

10/11/2014 - 13:41
Mae mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau gweld cwricwlwm addysg sy'n sicrhau bod pob disgybl yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yn effeithiol, yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov/Cymdeithas yr Iaith a gafodd ei ryddhau heddiw (Dydd Llun, Tachwedd 10fed). 
08/11/2014 - 10:15
Mewn ymateb i'r newyddion bod yr archfarchnad Lidl yn gwahardd staff rhag siarad Cymraeg o dan rai amgylchiadau, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r polisi hwn yn warthus, ac yn anghyfreithlon. Mae ein swyddogion wedi cysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi gyhoeddi y bydd ymchwiliad i mewn i'r cwmni yn syth. Ers i Fesur y Gymraeg basio pedair mlynedd yn ol mae wedi bod yn anghyfreithlon i atal staff rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid sy'n dymuno siarad Cymraeg."
07/11/2014 - 15:23
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y gallai fod “mannau gwan cyfreithiol” yn yr hawliau newydd i’r Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 7 Tachwedd).
07/11/2014 - 06:00
Annwyl Weinidog,  
03/11/2014 - 10:53
Bu'r meirw byw yn crwydo strydoedd Caernarfon heddiw (Dydd Gwener, Hydref 31ain) mewn protest yn erbyn cwmni Horizon Nuclear sydd eisiau adeiladu adweithydd niwclear newydd yn y Wylfa. Mae'r cwmni wrthi'n cynnal cyfres o gyfarfodydd fel rhan o ymgynghoriad cymunedol am yr atomfa newydd, ac heddiw aeth criw o aelodau Cymdeithas yr Iaith i'r cyfarfod yng Ngwesty’r Celtic Royal Caernarfon wedi gwisgo fel Meirw Byw (Zombies) er mwyn amlygu peryglon ynni niwclear i ddyfodol
31/10/2014 - 12:02
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r ffaith i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin leisio pryderon nad yw'r Gymraeg yn cael ei ystyried ym Mil Cynllunio Llywodraeth Cymru.   Mewn llythyr gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i'r Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant, mae nifer o argymhellion Gweithgor y Gymraeg, a grëwyd gan y cyngor sir fel rhan o'u hymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad yn cael eu codi.  
30/10/2014 - 10:42
Mae cyn-Arweinydd Plaid Cymru Dafydd Wigley wedi datgan ei gefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru er mwyn cryfhau'r iaith ar lefel gymunedol.  
27/10/2014 - 18:18
Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad cynhadledd Plaid Cymru, a gynhaliwyd yn Llangollen dros y Sul, i ddileu pob Cynllun Datblygu Lleol yng Nghymru. Mae pwyllgor gweithredu wedi cael ei sefydlu gan y mudiad ymgyrchu yng Ngwynedd a Môn oherwydd pryderon am effaith iaith cynlluniau'r siroedd i adeiladu wyth mil o dai. Dywedodd Ben Gregory ar ran y pwyllgor gweithredu: