Archif Newyddion

04/03/2015 - 08:58
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r hawliau iaith newydd a gafodd eu cyhoeddi heddiw.
02/03/2015 - 14:58
Wythnos i fewn i gyfnod ymgynghorol cynllun datblygu lleol Gwynedd a Môn, mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg ymyrryd yn y broses gan fod yr asesiad iaith a gyhoeddwyd gan y siroedd yn ‘annibynadwy’. Credant nad yw Cyngor Gwynedd a Môn yn gallu profi bod adeiladu 7,902 ‘yn annhebygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg’. Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd a Môn:
25/02/2015 - 12:39
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dod o dan y lach am atal y cyhoedd rhag cael mynediad i gyfarfodydd o banel sy'n trafod newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cryfhau yn yr ardal.  
24/02/2015 - 10:06
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i John Rowlands a fu farw heddiw. Pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn 1988 fe baentiwyd y slogan "Deddf Iaith Newydd" ar wal y swyddfa Gymreig a chymerodd John Rowlands ran yn y weithred.
24/02/2015 - 00:00
Yn ôl ymgyrchwyr iaith ym Maldwyn, mae Cyngor Sir Powys yn "llusgo'u traed," ac mae angen sefydlu gweithgor fydd yn mynd i'r afael â dirywiad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.
23/02/2015 - 11:20
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi talu teyrnged i’r Dr Meredydd Evans. Yn ogystal â bod yn ysgolhaig, yn berfformiwr roedd y Dr Meredydd Evans yn ymgyrchydd iaith, yn ladmerydd dros y dull di-drais o weithredu dros y Gymraeg ac yn un o’r dri Pencarreg a dorrodd i mewn i fast fel rhan o’r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg. Bu hefyd yn gweithredu yn angyfansoddiadol fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd a arweiniodd at wrandawiadau mewn Llysoedd gwahanol. Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
23/02/2015 - 09:38
Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi pastio posteri ar siop Morrisons yn Aberystwyth fel rhan o ymgyrch genedlaethol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn yr archfarchnad oherwydd diffyg gwasanaethau Cymraeg.