Archif Newyddion

11/09/2014 - 11:53
Bydd Robin Crag Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn un o'r siaradwyr yn y digwyddiad "Cymru'n Cefnogi IE" am 2pm tu allan i'r Senedd ym mae Caerdydd dydd Sadwrn (Medi 13eg). Dywedodd Robin:
01/09/2014 - 12:12
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cwyno wrth gorff llywodraethu pêl-droed Ewrop (UEFA) wedi i Sky gyhoeddi na fydd sylwebaeth Gymraeg ar gemau rhyngwladol Cymru ar y sianel deledu o hyn ymlaen.    Ddechrau mis Awst, galwodd y mudiad iaith am dreth ar gwmnïau fel Sky er mwyn ariannu darlledu Cymraeg. Bydd swyddogion y mudiad hefyd yn codi'r mater gydag Aelodau Seneddol mewn cyfarfodydd yn Llundain yfory.    
29/08/2014 - 08:42
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r banc NatWest o ddiffyg ymrwymiad at gymunedau Cymraeg yn dilyn penderfyniad, a ddaeth i'r amlwg heddiw, i gau nifer o ganghennau yn Sir Gaerfyrddin a Dyffryn Teifi - yn cynnwys Llandysul, Llanybydder, Cei Newydd a Hendy Gwyn ar Daf. Daeth y wybodaeth at gwsmeriaid mewn cylchlythyr uniaith Saesneg gan Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol y NatWest yn yr ardal (Wales and the South West), yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio'n hytrach gwasanaethau arlein Saesneg neu Swyddfa'r Post.
22/08/2014 - 09:06
Lai na dwy flynedd wedi i nifer siaradwyr y Gymraeg gwympo o dan hanner boblogaeth y sir mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi nodi pryder bod Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried toriadau i'w fuddsoddiad yn y Gymraeg. Wrth i Gyngor Sir Ceredigion ymgynghori ac ystyried dyfodol yr holl wasanaethau mae'n ei gynnig, mewn holiadur ar eu wefan gall trigolion ddewis rhwng 'parhau â’r lefel gyfredol' neu 'Lleihau' y gwasanaeth neu 'atal y gwasanaeth'
11/08/2014 - 08:37
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin am fabwysiadu strategaeth iaith flaengar a all cryfhau’r Gymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd i ddod yn dilyn yr Eisteddfod yn y sir.
10/08/2014 - 13:24
Daeth dros 400 o bobl i barti Cymdeithas yr iaith ar faes yr Eisteddfod heddiw i ddathlu fod y Cyngor wedi cyhoeddi amserlen gweithredu ei strategaeth iaith newydd.
06/08/2014 - 17:00
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn am sicrwydd y bydd y Llywodraeth yn cynyddu'r ganran o'i chyllideb sy'n cael ei gwario ar hyrwyddo'r Gymraeg, yn dilyn ei chyhoeddiad am gynlluniau i agor canolfannau iaith.
05/08/2014 - 17:00
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ystyried gwobrwyo Llywodraeth Cymru gyda ‘medal aur’ os caiff hawliau iaith clir ei sefydlu. Daw’r newyddion wedi i ymgyrchwyr iaith lansio datganiad dros newidiadau i’r safonau iaith newydd heddiw (2:30pm, Dydd Mawrth, Awst 5ed).   
03/08/2014 - 12:07
Dylai fod treth ar hysbysebion er mwyn sefydlu darlledwr Cymraeg newydd a fyddai’n gweithredu ar radio, teledu ac arlein, yn ôl papur trafod sy’n cael ei lansio gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw (3:30yp, Dydd Llun, Awst 4ydd).
01/08/2014 - 14:00
Mae protestio Cymdeithas yr Iaith dros newidiadau polisi yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dwyn ffrwyth, dyna oedd neges Cadeirydd y mudiad wrth iddo gael ei ddirwyo gan Lys Ynadon Aberystwyth heddiw (10yb, Dydd Gwener, Awst 1af).