Ar ddydd Llun, Hydref 20, bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynegi eu
gwrthwynebiad chwyrn i gynlluniau Cyngor Gwynedd i gwtogi ar wariant.
Bwriad y Cyngor yw cynnal ymgynghoriad i weld lle mae pobl yn
dymuno gweld cwtogi. Maent yn gwerthu hyn fel 'Her Gwynedd' gan ofyn i bobl
gymryd rhan hyd yn oed os nad ydynt wedi gwneud dim byd fel hyn o'r blaen.
Meddai Angharad Tomos, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Nid yw Cyngor Gwynedd erioed wedi gofyn am ein barn ar wariant
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Sir Gaerfyrddin i wneud yn gyhoeddus yr ohebiaeth rhwng Kevin Madge, arweinydd y cyngor a Carl Sargent, y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio.
Mae cell Dyffryn Teifi o Gymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn diolch iddo am ei ddiddordeb yn y Dyffryn, ond yn galw am weithredu i achub gwasanaethau lleol fel bod pobl ifainc am ymgartrefu yn y fro.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar i gyngor Wrecsam beidio â thorri ei arian i feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg.
Mae Mudiad Meithrin yn darparu gwasanaethau addysg Cymraeg i blant blynyddoedd cynnar yn Sir Wrecsam ac mae'r Cyngor am dorri £23,000 o'i gyfraniad iddo. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg gan ofyn am ei barn ynghylch y posibilrwydd y gallai anfon plant i feithrin cyfrwng Cymraeg fod yn fwy costus na darpariaeth Saesneg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud cais tan drefniadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am gyhoeddi cofnodion pwyllgor gan Gyngor Sir Caerfyrddin a sefydlwyd i hybu'r iaith Gymraeg. Sefydlodd y Cyngor Banel Ymgynghorol yr iaith Gymraeg wedi mabwysiadu strategaeth iaith newydd fis Ebrill diwethaf. Galwodd Cymdeithas yr Iaith am i gyfarfodydd y Panel fod yn
agored i'r cyhoedd a bod cyhoeddi cofnodion ar wefan y Cyngor er mwyn hybu trafodaeth gyhoeddus, ond penderfynwyd Ddydd Llun Hydref 6ed mewn cyfarfod o'r Panel nad oedd hyn yn bosibl o ran cyfansoddiad y Cyngor.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r datganiad interim gan yr Athro Donaldson a gyhoeddwyd heddiw, ac yn dweud fod yr egwyddorion a restrir yn cadarnhau'r ddadl dros sicrhau fod pob disgybl yn dod i allu cyfathrebu'n Gymraeg. Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg Huw Lewis mae'r Athro Donaldson, a gomisiynwyd gan y llywodraeth i wneud adolygiad o'r cwricwlwm, yn rhestru'r egwyddorion a ddylent fod yn sail i gwricwlwm newydd.
Dylai Carwyn Jones ymddiswyddo fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg am fod Bil Cynllunio a gafodd ei gyhoeddi heddiw (Dydd Llun, Hydref 6ed) wedi methu rhoi lle canolog i'r iaith, yn ôl y grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
"Rhaid i'r Gymraeg fod yn ganolog i'r drefn gynllunio", dyna oedd neges yr ymgyrchwyr iaith a ddaeth ynghyd ym Mhwllheli heddiw ar drothwy cyhoeddi Bil Cynllunio Llywodraeth Cymru.