Mae’r Gymdeithas yn trefnu cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar ei Fil Cynllunio amgen er mwyn derbyn adborth ar ei gynnwys, er mwyn hybu trafodaeth am y pwnc a newidiadau polisi a fyddai’n cryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith a’r iaith yn ehangach.
Cyfarfodydd Cyhoeddus
NA i dai di-angen ym Mhen Llyn - Cyfarfod Cyhoeddus
Capel y Drindod Pwllheli
7.30 yh, Ebrill 10 fed
Siaradwyr: Iwan Edgar, Myrddin ap Dafydd, Liz Saville Roberts, Robin Farrar
Trefn Gynllunio er budd ein Cymunedau - Caernarfon
Yr Institiwt, Caernarfon
7.00 yh, Ebrill 17 eg
Alun Ffred Jones AC a Toni Schiavone
Trefn Gynllunio er budd ein Cymunedau - Felinfach
Neuadd Felinfach, Felinfach, Ceredigion
8pm, Nos Iau, 8fed o Fai
Cyng. Lynford Thomas (Cadeirydd)
Siaradwyr: Dylan Iorwerth, Euros Lewis, Owen Llew, Gareth Lloyd, Dafydd Edwards, Cen Llwyd
Trefn Gynllunio er budd ein Cymunedau - Y Bala, Eisteddfod yr Urdd
7pm, Nos Iau, Mai 29 ain
Neuadd Bro Tegid y Bala
Siaradwyr: Liz Saville Roberts ac eraill
Manylion rhagor o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghaerfyrddin, Sir Benfro, Caerdydd a lleoedd eraill i ddilyn